Yr haf hwn, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu, mewn person, ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol sydd yn cael eu rhedeg ar draw  Cymru.

Ar ôl 2 flynedd o weithio o bell ac uwchgynadleddau rhithwir, rydym yn dod at ein gilydd gyda phartneriaid hen a newydd mewn tair uwchgynhadledd ranbarthol, yn hytrach nag uwchgynhadledd lawn ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

Ein nod yw sicrhau ein bod yn cael rhywfaint o amser wyneb yn wyneb, heb golli pwysigrwydd defnyddio technoleg i ddod â siaradwyr o bob rhan o Affrica i mewn.

Yr haf hwn, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu, mewn person, ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol sydd yn cael eu rhedeg ar draw  Cymru.

Ar ôl 2 flynedd o weithio o bell ac uwchgynadleddau rhithwir, rydym yn dod at ein gilydd gyda phartneriaid hen a newydd mewn tair uwchgynhadledd ranbarthol, yn hytrach nag uwchgynhadledd lawn ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

Ein nod yw sicrhau ein bod yn cael rhywfaint o amser wyneb yn wyneb, heb golli pwysigrwydd defnyddio technoleg i ddod â siaradwyr o bob rhan o Affrica i mewn.

Cardiff

Dydd Sadwrn 2ail Gorffenaf o 12.45 – 18.30 BST

Ein thema ar gyfer y digwyddiad hwn yw cyfiawnder hinsawdd.

Bydd cynhadledd #SummerUndod2022 y De-ddwyrain yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf rhwng 12.45 a 18.30 BST ym Mhafiliwn y Grange, Caerdydd.

Mae Pafiliwn y Grange yn ofod cymunedol gwyrdd a bywiog sy’n cefnogi prosiectau dan arweiniad y gymuned.  Yn ogystal â’r ystafelloedd y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer y digwyddiad, mae gardd yno hefyd, sy’n cynnwys pum pwll dŵr glaw, dolydd blodau gwyllt, gardd gwenyn mêl, lotment cymunedol a gofod gwyrdd ar gyfer awyr iach ac i rwydweithio.

Ein thema ar gyfer y digwyddiad hwn yw Cyfiawnder Hinsawdd. Byddwn yn clywed gan leisiau yn y cymunedau hynny yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng hinsawdd, ac yn clywed am yr ymateb i’r argyfwng o Gymru.

Byddwn yn croesawu Mari McNeill o Gymorth Cristnogol, a byddwn yn cysylltu’n rhithwir â grŵp menywod Bumaena yn Uganda a byddwn hefyd yn rhannu fideo o leisiau cynhenid o Genedl Wampís, cefnogwyd ga Maint Cymru, i glywed sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gymunedau ar draws y byd. Byddwn yn croesawu Climate Cymru hefyd,  i glywed sut y gallwn barhau i gyflawni’r ymrwymiadau a gafodd eu gwneud yn COP26.

Byddwch yn cael cyfle i drafod y pethau y gall pob un ohonom eu gwneud i fyw bywydau mwy cynaliadwy a mabwysiadu arferion ecogyfeillgar o’r Canolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd a’r Panel Cynghori Is-Sahara Ieuenctid. Gofynnwch eich cwestiynau llosg:

  • Beth alla i’i wneud?
  • Pam mae’n bwysig?
  • Sut y gallaf gefnogi eraill i fyw’n fwy cynaliadwy?

Bydd ein byrddau rhwydweithio yn gyfle i ddysgu mwy am rywfaint o’r gwaith amrywiol sy’n digwydd ar draws de-ddwyrain Cymru, ac yn gyfle i weld enillwyr ein Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 2022, rhan o’r prosiect ‘Ail-fframio’r Naratif’, ac arddangosfa o geisiadau o arddangosfa Ieuenctid Masnach Deg Bro Morgannwg ar gyfiawnder hinsawdd.

Byddwn yn gorffen gyda rhywfaint o fwyd Affricanaidd blasus, a miwsig Affricanaidd.

Bangor

Dydd Iau 7fed Gorffenaf o 13.30 – 18.30 BST

Ein thema ar gyfer y digwyddiad hwn yw rhywedd. Byddwn yn dathlu menywod sy’n gweithio ym maes arweinyddiaeth, ac yn clywed gan dair o siaradwyr benywaidd anhygoel o gymuned Cymru ac Affrica.

Our theme for this event is gender. We’ll be celebrating women in leadership and hearing from three amazing women speakers from the Wales and Africa community.

We’ll be welcoming Dr Salamatu Fada from the North Wales Africa Society and Tallafi, Maggie Ogunbanwo from Maggie’s African Twist, and Wanjiku Mbugua from BAWSO to talk about their work and experiences in Wales.

You will also have an opportunity to grill a Fair Trader! Bring your burning questions: Does it work? Who benefits? Why pay a premium? Our fearless Fair Trade Wales representatives, Aileen and Kadun, are here to answer all!

There will also be an opportunity for Health Partnerships to network and share experiences, challenges, and successes facilitated by Dr Kit Chalmers from THET.

Our networking tables provide an opportunity to learn more about some of the diverse work that is happening across the north of Wales. There will be trade stalls from Fair Trade Wales and Maggies African Twist, as well as the opportunity to view the winners of our ‘Reframing the Narrative’ photography competition.

We will finish with some delicious African food from Maggie’s African Twist, and some African beats.

Swansea

Dydd Gwener 15fed Gorffenaf o 15:00 – 20:00 BST

Ein thema ar gyfer y digwyddiad hwn yw bywoliaethau cynaliadwy.

Bydd #SummerUndod2022 yn cael ei gynnal yn y de-orllewin ar ddydd Gwener 15 Gorffennaf rhwng 15.00 a 20.00 BST yn Theatr y Grand, Abertawe.

Ein thema ar gyfer y digwyddiad hwn yw bywoliaethau cynaliadwy. Byddwn yn clywed gan bartneriaethau rhwng Cymru ac Affrica i gefnogi pobl i ennill bywoliaeth mewn cyfnod anodd. Byddwn yn dysgu mwy hefyd am sut mae COVID-19, y rhyfel yn yr Wcráin a’r newid yn yr hinsawdd wedi effeithio ar fywoliaeth, a sut y gallwn ni yng Nghymru weithio mewn undod gyda’r rheini yr effeithir arnynt fwyaf.

Bydd gennym astudiaethau achos a chyfraniadau gan:

Mae ein byrddau rhwydweithio yn gyfle i ddysgu mwy am rywfaint o’r gwaith amrywiol sy’n digwydd ar draws Cymru. Bydd gennym fyrddau wedi’u neilltuo ar gyfer addysg, newid yn yr hinsawdd, rhyw a mwy!

Bydd stondinau masnach o Siop Lyfrau Oxfam a Love Zimbabwe, yn ogystal â’r cyfle i weld enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 2022, rhan o’r prosiect ‘Ail-fframio’r Naratif’.

Byddwn yn gorffen gyda bwyd Nigeriaidd blasus gan Twale Cuisine a cherddoriaeth fyw gan Ify Iwobi a N’Famady Kouyate.

Mae’r lleoliad yn hygyrch a bydd dolen glywed ar gael ar gyfer cyfarfodydd llawn.