
đź“… Dydd Mawrth 23ain Mai am 9:30-17.00 BST
📍 Canolfan Gynadledda PDC, Trefforest, CF37 1DL
Mae’r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang yn dod ag unigolion a sefydliadau o Gymru sy’n gweithio ar brosiectau undod ledled y byd at ei gilydd. O grwpiau cymunedol bach i ganghennau o gyrff anllywodraethol rhyngwladol yng Nghymru, rydym yn codi proffil y sector yng Nghymru.
Cynhelir Uwchgynhadledd 2023 ar ddydd Mawrth 23ain Mai yng Nghanolfan Gynadledda Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest. Ychydig funudau ar droed o orsaf drenau Trefforest a chyda mynediad cyflym, hawdd i’r M4, mae’r ganolfan gynadledda bwrpasol hon 20 munud yn unig o’r brifddinas.
(Ail)Cysylltu Cymunedau yw thema’r Uwchgynhadledd. Wrth i ni barhau i addasu i realiti Ă´l-Covid, bydd hwn yn gyfle amhrisiadwy i glywed gan leisiau blaenllaw yn y sector wrth gyfarfod a rhwydweithio gyda chydweithwyr a chymheiriaid.
Am y tro cyntaf, bydd yr Uwchgynhadledd yn ddigwyddiad hybrid, a bydd cyfranogwyr yn gallu ymuno â’r sesiynau llawn ar-lein os na allant fod yn bresennol yn bersonol. Byddwn hefyd yn anelu at gyflwyno un gweithdy hybrid.
Bydd panelwyr ar gyfer trafodaeth banel y prynhawn yn cynnwys enillwyr Gwobrau Partneriaeth 2023. Mae ceisiadau ar gyfer y Gwobrau nawr ar agor.
Hoffech chi gael stondin yn yr Uwchgynhadledd? Anfonwch e-bost at enquiries@hubcymruafrica.org.uk i ofyn am un.
Daliwch i fyny ar fideos Uwchgynhadledd Undod Byd-eang 2021Â a 2022 ar-alw ar ein sianel YouTube.

Cofrestriad
09:30 – 10:15
Anogir dirprwyon i gyrraedd mewn da bryd. Darperir te a choffi yn ystod cofrestriad.
Croeso ac Anerchiad Agoriadol
10:15 – 10:45
Bydd Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn traddodi’r anerchiad agoriadol yn dilyn croeso i ddirprwyon i Uwchgynhadledd Undod Byd-eang 2023 gan Claire O’Shea, Pennaeth Partneriaeth yn Hub Cymru Africa.
Bydd dirprwyon ar-lein yn gallu gwylio’r sesiwn hon.
Prif Anerchiad y Bore
10:45 – 11:15
Bydd Phyllis Opoku-Gyimah (a adweinir hefyd fel Lady Phyll), Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwraig Weithredol UK Black Pride a Chyfarwyddwraig Weithredol y Kaleidoscope Trust, yn traddodi Araith Gyweirnod y Bore.
Bydd dirprwyon ar-lein yn gallu gwylio’r sesiwn hon a gofyn cwestiynau drwy Slido.
Gweithdai
11:30 – 12:30
Bydd pedwar gweithdy ar gael i ddirprwyon a fydd yn bresennol yn bersonol:
1. Ymatebion Ymarferol i Newid Hinsawdd
Mae newid hinsawdd eisoes yn niweidio pobl ar draws y byd ac mae sawl rhan o Affrica wedi cael eu hanrheithio gan sychder, llifogydd a thywydd garw. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar yr hyn y gall partneriaethau Cymru-Affrica ei wneud i ddeall a lleihau effeithiau amgylcheddol eu gwaith. Byddwn hefyd yn siarad am sut y gall gwaith prosiect, gan gynnwys cymorth i gynhyrchwyr Masnach Deg, helpu cymunedau i addasu i hinsawdd sy’n newid.
2. Hawliau a Pherchenogaeth Tir Menywod
Nid oes gan lawer o fenywod ledled Affrica fynediad i dir na’r hawl i brynu neu etifeddu tir. Mae hyn yn lleihau eu gallu i ennill arian neu dyfu bwyd ar gyfer eu teuluoedd, gan gyfyngu ar ddatblygiad economaidd ac ymdrechion i sicrhau cydraddoldeb. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar wreiddiau, cymhlethdodau a goblygiadau’r broblem, gan gynnwys cyfreithiau ac arferion cymdeithasol. Mae’n gyfle i ddysgu mwy, rhannu profiadau ac archwilio beth all partneriaethau Cymru-Affrica ei wneud i gefnogi merched sy’n chwilio am dir.
3. Ymgysylltu â’ch cynulleidfa yn effeithiol: cyfathrebu a arweinir gan ddata
Mae’r gweithdy hwn wedi’i anelu at grwpiau a phobl sydd eisiau adeiladu cefnogaeth a chyfathrebu’n effeithiol gyda’u cynulleidfaoedd. Bydd Labordy Ymgysylltu Datblygu yn dangos i ni’r ymchwil diweddaraf ar agweddau at gymorth a sut y gellir ei ddefnyddio i lunio’r ffordd yr ydych yn siarad am eich gwaith yn seiliedig ar ddata, ymchwil a mewnwelediad cynulleidfa.
Rydym yn gobeithio gwneud y gweithdy hwn ar gael ar gyfer dirprwyon ar-lein.
4. Cynhwysiant digidol yn Affrica
Nod y gweithdy hwn yw hwyluso trafodaeth a dod ag ymwybyddiaeth i gynhwysiant digidol yn Affrica. Bydd yn amlygu’r rhaniad digidol sy’n bodoli nid yn unig rhwng cenhedloedd incwm uchel ac isel, ond hefyd o fewn cenhedloedd Affrica; yn ogystal ag mewn meysydd fel rhyw, gallu a mwy ar gyfandir Affrica.
Cinio | Digwyddiad Ymylol ar Ddiogelu
12:30 – 13:30
Bydd bwffe llysieuol yn cael ei ddarparu. Gellir manylu ar ofynion diet wrth gofrestru trwy Eventbrite.
Yn ystod yr egwyl cinio, bydd digwyddiad ymylol yn cael ei gynnal er mwyn i ddirprwyon trafod eu anghenion cefnogaeth diogelu.
Prif Anerchiad y Prynhawn
13:30 – 14:00
Areithydd cyweirnod i gael ei g/chadarnhau.
Bydd dirprwyon ar-lein yn gallu gwylio’r sesiwn hon a gofyn cwestiynau drwy Slido.
Gweithdai
14:00 – 15:00
Bydd pedwar gweithdy ar gael i ddirprwyon a fydd yn bresennol yn bersonol:
1. Ymatebion Ymarferol i Newid Hinsawdd
Mae newid hinsawdd eisoes yn niweidio pobl ar draws y byd ac mae sawl rhan o Affrica wedi cael eu hanrheithio gan sychder, llifogydd a thywydd garw. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar yr hyn y gall partneriaethau Cymru-Affrica ei wneud i ddeall a lleihau effeithiau amgylcheddol eu gwaith. Byddwn hefyd yn siarad am sut y gall gwaith prosiect, gan gynnwys cymorth i gynhyrchwyr Masnach Deg, helpu cymunedau i addasu i hinsawdd sy’n newid.
2. Hawliau a Pherchenogaeth Tir Menywod
Nid oes gan lawer o fenywod ledled Affrica fynediad i dir na’r hawl i brynu neu etifeddu tir. Mae hyn yn lleihau eu gallu i ennill arian neu dyfu bwyd ar gyfer eu teuluoedd, gan gyfyngu ar ddatblygiad economaidd ac ymdrechion i sicrhau cydraddoldeb. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar wreiddiau, cymhlethdodau a goblygiadau’r broblem, gan gynnwys cyfreithiau ac arferion cymdeithasol. Mae’n gyfle i ddysgu mwy, rhannu profiadau ac archwilio beth all partneriaethau Cymru-Affrica ei wneud i gefnogi merched sy’n chwilio am dir.
3. Ymgysylltu â’ch cynulleidfa yn effeithiol: cyfathrebu a arweinir gan ddata
Mae’r gweithdy hwn wedi’i anelu at grwpiau a phobl sydd eisiau adeiladu cefnogaeth a chyfathrebu’n effeithiol gyda’u cynulleidfaoedd. Bydd Labordy Ymgysylltu Datblygu yn dangos i ni’r ymchwil diweddaraf ar agweddau at gymorth a sut y gellir ei ddefnyddio i lunio’r ffordd yr ydych yn siarad am eich gwaith yn seiliedig ar ddata, ymchwil a mewnwelediad cynulleidfa.
4. Cynhwysiant digidol yn Affrica
Nod y gweithdy hwn yw hwyluso trafodaeth a dod ag ymwybyddiaeth i gynhwysiant digidol yn Affrica. Bydd yn amlygu’r rhaniad digidol sy’n bodoli nid yn unig rhwng cenhedloedd incwm uchel ac isel, ond hefyd o fewn cenhedloedd Affrica; yn ogystal ag mewn meysydd fel rhyw, gallu a mwy ar gyfandir Affrica.
Sgwrs Panel
15:30 – 16:30
Bydd y panel yn cynnwys enillwyr Gwobrau Partneriaeth 2023. Rydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer y Gwobrau tan 25ain Ebrill.
Bydd dirprwyon ar-lein yn gallu gwylio’r sesiwn hon a gofyn cwestiynau drwy Slido.
Derbyniad Rhwydweithio
16:30 – 17:00
Darperir lluniaeth tra bydd dirprwyon yn defnyddio’r cyfle hwn i gyfarfod, cyfarch, dal i fyny a rhwydweithio.
Jane Hutt AS
Anerchiad Agoriadol
Jane Hutt AS yw’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru. Ymhlith ei chyfrifoldebau gweinidogol mae rhaglen Cymru ac Affrica; cynhwysiant digidol; cydraddoldeb a hawliau dynol; cydlynu materion yn ymwneud â cheiswyr lloches a ffoaduriaid; gweithredu fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; a’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.
Treuliodd Jane ran o’i phlentyndod yn Wganda a Chenia, ac mae wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 1972. Yn aelod o’r Senedd ers ei chreu yn 1999, mae wedi gwasanaethu ym mhob gweinyddiaeth hyd yma ac mewn sawl un o’r rolau uchaf yn y llywodraeth, gan gynnwys fel Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ.
Mo Jannah
Prif Anerchiad y Prynhawn
Mae Mo Jannah yn gyflwynydd a chynhyrchydd teledu. Wrth dyfu i fyny yng Nghaerdydd, bu’n gweithio gyda throseddwyr ifanc a gwasanaethau ieuenctid cyn symud i fyd darlledu drwy raglen hyfforddi It’s My Shout, sy’n helpu i ddatblygu talent newydd ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.
Yn 2018, Mo oedd testun y bennod New Voices from Wales o’r enw “Mo’s World”, rhaglen ddogfen a oedd yn canolbwyntio ar ei waith hyfforddi bywyd ac ymyriadau gyda dynion ifanc ar y cyrion o Gaerdydd a Chasnewydd. Ers hynny daeth yn wyneb cyson i wylwyr BBC One Wales fel gohebydd ar y rhaglen hawliau defnyddwyr X-Ray. Datblygodd Mo hefyd raglen ddogfen chwaraeon ar gyfer BBC Cymru ac awdur ei gyfres ar-lein ei hun am Black History.
Phyll Opoku-Gyimah (a adwaenir hefyd fel Lady Phyll)
Prif Anerchiad y Bore
Phyll Opoku-Gyimah yw prif weithredwraig a chyd-sylfaenydd UK Black Pride, dathliad mwyaf Ewrop ar gyfer pobl LHDTC+ o liw. Mae hi hefyd yn brif weithredwraig y Kaleidoscope Trust, elusen flaenllaw’r DU sy’n dadlau dros hawliau dynol pobl LHDTC+ ledled y Gymanwlad.
Mae hi wedi bod yn bennaeth cydraddoldeb ac addysgu yn yr Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, wedi eistedd ar bwyllgor cysylltiadau hiliau’r Gyngres yr Undebau Llafur, ac wedi bod yn ymddiriedolwraig ar gyfer yr elusen hawliau LHDTC+ Stonewall. Mae’n cael ei hadnabod yn eang fel Lady Phyll, yn rhannol oherwydd ei phenderfyniad i wrthod MBE i brotestio rĂ´l Prydain wrth lunio codau cosbi gwrth-LHDTC+ ar draws ei hymerodraeth.
Maint Cymru
Mae Maint Cymru yn cefnogi cymunedau brodorol a lleol i amddiffyn ac adfer coedwigoedd trofannol ac yn ysbrydoli gweithredu hinsawdd yma yng Nghymru. Dewch i’n stondin lle byddwch yn darganfod mwy am ein partneriaid tramor ysbrydoledig a’r hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru i fynd i’r afael â’n hôl troed datgoedwigo dramor.
Panel Cynghori Is-Sahara
Ffurfiwyd Panel Cynghori Is-Sahara gan grwpiau alltud Affricanaidd yng Nghymru i hybu eu buddiannau cyffredin ar y cyd rhwng cymunedau Affricanaidd yng Nghymru yn ogystal â rhai yn Affrica. Rydym yn defnyddio sgiliau, gallu a gwybodaeth a geir o fewn cymunedau Cymreig Affrica alltud er budd pawb. Dewch i siarad â ni am gymunedau Affricanaidd yng Nghymru a’u cysylltiadau ag undod rhyngwladol a datblygu cymunedol yng Nghymru.
Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Mae Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol yn ysbrydoli pobl i ddysgu am faterion byd-eang a gweithredu arnynt fel y gall pawb yng Nghymru gyfrannu at adeiladu byd tecach a mwy heddychlon. Dewch i’n stondin i archwilio’r dyfodol rydym ei eisiau ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a chyfrifoldeb byd-eang yng Nghymru a chyda’n partneriaid.
Cyngor Ffoaduriaid Cymru
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn ceisio grymuso ceiswyr lloches a ffoaduriaid i adeiladu dyfodol newydd yng Nghymru. Eisiau darganfod beth mae’n ei olygu i fod yn Genedl Noddfa a gwaith Cyngor Ffoaduriaid Cymru? Dewch i ddarganfod ein stondin!