Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Mentrau Dinasyddion er Undod Byd-eang

Rwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Mentrau Dinasyddion er Undod Byd-eang

Ar y diwrnod rhyngwladol ar gyfer dileu tlodi ar 17 Hydref 2021, sefydlodd grŵp o 10 sefydliad Rwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Mentrau Dinasyddion er Undod Byd-eang.  Nod y rhwydwaith hwn yw cefnogi a datblygu’r mudiad o fentrau dinasyddion er undod byd-eang yn Ewrop. Bydd y rhwydwaith yn gweithredu fel llwyfan yn Ewrop i bawb sydd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yn cefnogi mentrau dinasyddion o’r fath mewn undod byd-eang, ac yn credu mewn datblygu dan arweiniad dinasyddion.

Sefydliadau ydy mentrau dinasyddion er undod byd-eang, sy’n hyrwyddo undod a gweithio mewn partneriaeth rhwng dinasyddion Ewrop a dinasyddion mewn mannau eraill yn y byd. Mae’r ffordd y mae’r mentrau hyn yn datblygu yn amrywiol iawn, ond yn y rhan fwyaf o wledydd, maen nhw’n fentrau datblygu bach, sydd yn cael eu harwain gan ddinasyddion. Mae sefydliadau fel hyn yn bodoli ym mhob gwlad yn Ewrop. Mae mentrau dinasyddion yn cefnogi eu partneriaid yn y byd i gyflawni eu hamcanion datblygu eu hunain. Mae gwaith yr holl gannoedd o filoedd o fentrau hyn yn helpu i hyrwyddo hawliau dynol a chyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn fyd-eang

Mae’r Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Mentrau Dinasyddion er Undod Byd-eang, yn cynnwys sefydliadau sy’n ymchwilio, yn ariannu, yn hyfforddi, yn lobïo, yn hyrwyddo neu’n galluogi cyfnewid rhwng mentrau dinasyddion er undod byd-eang. Pwrpas y rhwydwaith newydd yw cyfnewid gwybodaeth rhwng ei aelodau. Drwy wneud hyn, mae’r aelodau’n cael eu galluogi i wella eu; harferion ariannu, hyfforddi, rhwydweithio a lobïo, a chynyddu’r ddealltwriaeth o’r mudiad mentrau dinasyddion yn Ewrop.

Mae’r rhwydwaith sydd bellach wedi’i sefydlu mewn chwe gwlad, yn gwahodd yr holl gyllidwyr, awdurdodau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, asiantaethau’r llywodraeth, undebau cenedlaethol, rhwydweithiau a sefydliadau ymchwil yn Ewrop sy’n ymddiddori’n frwd mewn mentrau dinasyddion ar gyfer undod byd-eang ac yn eu cefnogi, i gefnogi cenhadaeth y rhwydwaith hwn ac ymuno ag ef.

Rhestr o aelodau sefydlu a chysylltiedig:

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ysgrifennydd dros dro y rhwydwaith:

European Network for CIGS
tao: ErnstJan Stroes
Piet Mondriaanlaan 14
3812 GV Amersfoort
Yr Iseldiroedd

Rhif ffôn: +31 (0)33-204 5542
E-bost: europeannetworkforCIGS@gmail.com