EN
< Adnoddau Llywodraethiant

Adborth partneriaid ar gyfer Adolygiad Strategol

Cyflwyniad

Rydym yn cynnal adolygiad o’r gwaith rydym yn ei wneud.

Hoffem glywed eich adborth ar y gwaith hyd yn hyn, a sut y gallem barhau i wella’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd yn y dyfodol.

Edrychwch ar y cwestiynau isod a gwnewch nodiadau, a gallwn drafod yn ein galwad ffôn / fideo. Rydym yn eich annog i roi adborth gonest, gan y bydd hynny’n ein helpu i wella ein gwaith gyda’n gilydd. 

Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw’n ddiogel, ac yn unol â’n Polisi Preifatrwydd. Cliciwch yma i’w ddarllen.

  • Polisi preifatrwydd y wefan

Manylion Personol

E-bost

Eich Enw

Eich sefydliad

Eich sefydliad Partner yng Nghymru

Eich prif berson cyswllt yng Nghymru

Cwestiynau

  1. Beth ydych chi’n meddwl fu’r newidiadau o ganlyniad i’r gwaith prosiect rydyn ni’n ei wneud gyda’n gilydd? Yn y gymuned ac ar gyfer eich sefydliad?
  2. Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono yn eich gwaith gyda ni?  (er enghraifft: yr agweddau pleserus / beth sy’n gweithio’n dda)*
  3. Beth sy’n newydd neu’n wahanol yn yr ardal? (er enghraifft: ystyriwch y cyfleoedd a’r bygythiadau i bobl sy’n byw yn y gymuned ac i’r prosiect. Meddyliwch ar lefelau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, cyfreithiol ac amgylcheddol)*
  4. Ble mae’r cynnydd ar ei anoddaf, a pham? (er enghraifft: beth yw’r rhwystrau sy’n effeithio ar bobl yn y gymuned? Ystyriwch adnoddau a chapasiti allanol a mewnol. Beth sydd ei angen ar y gymuned?)*
  5. Beth y gellid ei wneud yn wahanol yn y ffordd rydym yn gweithio gyda chi a phobl yn y gymuned?*
  6. Beth sydd ei angen ar y sefydliad / cymuned i fod yn gynaliadwy? (Er enghraifft: oes gan eich sefydliad unrhyw gyllid y tu hwnt i’r arian gennym ni, eich Partneriaid yng Nghymru?)
  7. A fedrwch chi restru’r bobl neu’r sefydliadau pwysig eraill rydych chi’n gweithio gyda nhw ar y prosiect, a beth rydych chi’n wneud gyda’ch gilydd? (dylech gynnwys cyrff anllywodraethol eraill, busnesau, cynrychiolwyr y llywodraeth, grwpiau ffydd, arweinwyr traddodiadol, sefydliadau cymunedol ac ati)
  8. Er mwyn cefnogi ein hymdrechion codi arian, sut y gallwn gael gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl sy’n ymgysylltu â’ch prosiectau.  (Er enghraifft: sut y gallwn ymgynghori â phobl i gynrychioli eu hanghenion i gyllidwyr posibl a chyfredol? Ystyriwch gyda phwy y dylem ymgynghori, a sut. Er enghraifft, trwy gyfrwng grwpiau ffocws, cyfweliadau, ac ati).
  9. Beth allwn ni ei wneud i wella’r ffordd rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth?

Casgliad

Diolch am eich ymatebion. Rydym yn edrych ymlaen at eu trafod gyda chi gyda’n gilydd  yn ein galwad.