EN

Ein gwaith

Rydym yn cynrychioli'r sector undod byd-eang yng Nghymru.

The Welsh Dragon against a Pride flag

Rydym yn cynnig cyngor, mentora, hyfforddiant, digwyddiadau, polisi ac eiriolaeth i gynyddu gallu ac effeithiolrwydd y sefydliadau elusennol a chyhoeddus rydym yn gweithio gyda nhw. Mae Hub Cymru Africa yn cefnogi’r grwpiau ac unigolion amrywiol a bywiog yng Nghymru – ymgyrchwyr masnach deg, diaspora Affricanaidd, staff y GIG, sefydliadau cymunedol a ffydd, ac elusennau – i gyfrannu at ddatblygiad byd-eang sy’n gyfrifol ar lefel gymdeithasol.

Rydym yn cefnogi’r partneriaethau a’r grwpiau hyn i dyfu (trwy godi arian a recriwtio gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr newydd), lliniaru risgiau (fel diwydrwydd dyladwy mewn partneriaethau, diogelu a rheoli ariannol), gwella ansawdd (trwy weithio yn unol ag arferion gorau fel adrodd ar effaith a phrosiectau wedi’u cynllunio gan y gymuned), rhwydweithio gyda chyllidwyr a chyfoedion, a gwella amrywiaeth a chynhwysiant y diaspora Affricanaidd yng Nghymru.

Rydym yn cael ein hariannu drwy grantiau gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Dramor y Gymanwlad a Datblygu Llywodraeth y DU. Fel y prif sefydliad cymorth ar gyfer rhaglen Cymru ac Affrica, rydym yn gatalydd dros weithredu yng Nghymru, yn cyfrannu at ganlyniadau datblygu yn Affrica a thu hwnt, ac yn sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Cael cefnogaeth