EN

Digwyddiadau i ddod

Ffair Undod Byd-eang 2026

CynhadleddDigwyddiad mewn person Undeb Myfyrwyr Caerdydd Plas y Parc Caerdydd CYMRU CF10 3QN

Bydd digwyddiad undod byd-eang blaenllaw Cymru yn dychwelyd fis Tachwedd hwn, gyda siaradwyr ysbrydoledig, gweithdai rhyngweithiol, cyfleoedd i rwydweithio ac arddangosfeydd sy'n archwilio cyfiawnder hinsawdd, datblygu rhyngwladol a chyfiawnder cymdeithasol.

Gweld y Digwyddiad

Cysylltu’r Diaspora: Rhannu profiadau ym maes undod byd-eang

Diaspora RhwydweithioDigwyddiad ar-lein Zoom

Sesiwn rwydweithio sy’n dod ag aelodau o’r diaspora Affricanaidd yng Nghymru at ei gilydd i rannu profiadau, y pethau maen nhw wedi’i ddysgu, a syniadau ar gyfer cydweithio. Bydd y sesiwn yn archwilio’r cymorth, yr hyfforddiant a’r cyfleoedd cyllido sydd ar gael, ac yn creu lle i drafod heriau cyffredin ac i lunio’r ffordd y bydd gweithgarwch rhwydweithio ac ymgysylltu yn datblygu yn y dyfodol.

Gweld y Digwyddiad
UK aid logo. Credit: DFID / Rich Taylor.

Cysylltu penderfyniadau byd-eang â gweithredu lleol

Digwyddiad ar y cyd UK Alliance ar-lein Polisi ac Ymgyrchoedd Digwyddiad ar-lein Zoom

Mae UK Alliance yn gwahodd sefydliadau cymdeithas sifil sy’n gweithio ar draws y byd i fynychu sesiwn ar-lein am ddim ar y G20 a Civil 20 (C20) cyn llywyddiaeth y DU o’r G20.

Gweld y Digwyddiad
Safeguarding Surgery by Hub Cymru Africa

Diogelu Hanfodol

GweminarDigwyddiad ar-lein Zoom

Bydd yr hyfforddiant hwn yn tywys cyfranogwyr drwy'r arferion a'r gofynion diogelu hanfodol ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio mewn partneriaethau undod byd-eang yn Affrica a Chymru.

Gweld y Digwyddiad
Safeguarding Surgery by Hub Cymru Africa

Diogelu Gloywi

GweminarDigwyddiad ar-lein Zoom

Ar gyfer unrhyw un sydd wedi cwblhau hyfforddiant diogelu mewn datblygiad rhyngwladol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac sydd eisiau gloywi eu hymarfer trwy drafod astudiaethau achos.

Gweld y Digwyddiad
Safeguarding Surgery by Hub Cymru Africa

Hyfforddiant diogelu i swyddogion diogelu ac ymddiriedolwyr

Digwyddiad ar-lein Zoom

Mae hwn yn hyfforddiant ar gyfer Swyddogion Diogelu sefydliadau sy'n gweithio mewn undod byd-eang yng Nghymru ac Affrica, sy’n cynnwys Swyddogion Diogelu partneriaid yn Affrica.

Gweld y Digwyddiad

Digwyddiadau'r Gorffennol

Wedi colli un o’n digwyddiadau? Dim problem! Porwch drwy ein harchif, a dal i fyny ar yr eiliadau cyffrous, sgyrsiau mewnweledol, a gweithgareddau difyr o’n digwyddiadau blaenorol.

Digwyddiadau'r Gorffennol