Mae hiliaeth yn bodoli yn y sector datblygu fel ag y mae yn y gymdeithas ehangach. Felly, mae'n rhaid i ni gydnabod sut mae'n digwydd, a gweithredu i fynd i'r afael â'r effeithiau negyddol y gall ei gael arnom ni ein hunain, ein cydweithwyr a'r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw. Mae'r sector cymorth yn bodoli i liniaru tlodi, ond gall dynameg pŵer cymorth atgyfnerthu strwythurau a systemau pŵer a dyfodd trwy wladychu. Rhaid i ni gydnabod hyn, a gweithio gyda'n partneriaid yn agored ac yn onest i fynd i'r afael â hiliaeth.
Llofnodwch y Siarter Gwrth-HiliaethMae Rhaglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru yn ceisio cynyddu undod a phartneriaeth yn fyd-eang. Nid yw’n ddigon i fod yn anhiliol; Dylem symud ymlaen i fod yn sector gwrth-hiliol, a sicrhau nad ydym yn cyfrannu at ymddygiadau a systemau hiliol wrth weithio gyda chymunedau hiliol yng Nghymru ac Affrica.
Mae’r siarter hon ar gyfer elusennau bach a grwpiau cymunedol yng Nghymru sy’n gweithio’n rhyngwladol, yn enwedig gyda’n partneriaethau chyrff anllywodraethol a grwpiau cymunedol yn Affrica Is-Sahara, ar brosiectau a gweithgareddau datblygu neu undod.
Rydym yn annog pob grŵp ac unigolyn sy’n gweithio yn y sector hwn i gofrestru a chyflawni’r ymrwymiadau yn y siarter gwrth-hiliaeth hon. Gall Hub Cymru Africa a’r Panel Cynghori Is-Sahara gefnogi grwpiau ac unigolion i wireddu nodau’r siarter drwy’r pecyn cymorth isod, a sesiynau hyfforddi blynyddol am ddim.
1. Rydym yn ymrwymo i fynd i’r afael â hiliaeth. Mae’n broblem i bawb, ac nid yn faich i grŵp unigol o bobl yn unig, ac mae cael gwared â hiliaeth yn fuddiol i bawb
2. Byddwn yn defnyddio ein swyddi i herio hiliaeth lle byddwn yn ei weld, i feddwl yn feirniadol am y strwythurau hiliol rydym yn eu cynnal yn ddiarwybod, a’u datgymalu
3. Byddwn yn gweithio mewn ffordd sy’n cydnabod ac yn blaenoriaethu arbenigedd a gwybodaeth yn y wlad, i arwain ein gwaith a chefnogi hyn gyda strwythur cyflog teg
4. Byddwn yn ymrwymo i gymryd perchnogaeth o ddatblygu ein dealltwriaeth ddyfnach ein hunain o faterion hiliaeth, a sut maen nhw’n effeithio ar ein meddwl
5. Rydym yn sefydliad sy’n croesawu adborth beirniadol, gyda’r bwriad o ddysgu a gwella ein gwaith. Byddwn yn gweithredu heb amddiffynfa nac ôl-effeithiau negyddol i’r rhai sy’n tynnu sylw at arferion hiliol neu drefedigaethol, ac yn creu prosesau atebolrwydd yn ein gwaith.
6. Byddwn yn adolygu ein holl bolisïau yn rheolaidd, gyda lens gwrth-hiliol a rhyngblethol, ac yn ceisio cymorth arbenigol pan fo angen
7. Rydym yn ymrwymo i fynd ati i wella amrywiaeth ein byrddau, ein timau a’n gwirfoddolwyr er mwyn cyflawni penderfyniadau mwy gwybodus a chyfiawn
8. Byddwn yn mabwysiadu iaith, adrodd straeon a delweddau priodol a meddylgar. Rydym yn cydnabod bod ganddynt ystyr, eu bod yn gallu achosi niwed, ac y gallant atgyfnerthu hiliaeth
9. Byddwn yn sicrhau bod yr holl waith yn mabwysiadu dull cyfiawnder cymdeithasol, i hyrwyddo hunangynhaliaeth yr holl bartneriaid, gan gynnwys tegwch mewn cyfleoedd
10. Byddwn bob amser yn hyrwyddo cynaliadwyedd (Cymdeithasol, Dynol, Economaidd ac Amgylcheddol) yn ein gwaith a’n partneriaethau
11. Byddwn yn ystyried yr anghyfiawnderau byd-eang ehangach yn ein gwaith, ac yn ystyried effaith negyddol ein gweithredoedd ar yr hinsawdd a’r amgylchedd a’u lliniaru, gan gydnabod mai’r bobl â’r ôl troed carbon isaf yw’r rhai sy’n teimlo’r effaith fwyaf
12. Byddwn yn ymrwymo i gynnwys ein partneriaid, ein bwrdd, ein gwirfoddolwyr a’n cynulleidfa ehangach yn ein gwaith ar y siarter hon.
Mae’r pecyn hunanasesu gwrth-hiliaeth wedi’i gynllunio i hwyluso dysgu, hunanfyfyrio a dealltwriaeth ar gyfer grwpiau neu elusennau sy’n ceisio mynd i’r afael â hiliaeth. Nod y pecyn hwn yw darparu mesur ychwanegol i grwpiau neu elusennau ei ddefnyddio i adolygu rhagfarnau ac arferion hiliol. Ein gobaith yw eich bod chi a’ch tîm yn dysgu rheoli sgyrsiau gonest, anodd ac agored am hil.
Edrychwch ar adran adnoddau ein gwefan am adnoddau pellach i gefnogi eich taith gwrth-hiliaeth.
Rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych neu eich helpu ar eich taith gwrth-hiliaeth. Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch.