EN

Cael Cefnogaeth

Adnoddau

Yma gallwch ddod o hyd i adnoddau mynediad am ddim ar gyfer cyrff anllywodraethol ac elusennau sy’n gweithio mewn undod byd-eang a datblygu rhyngwladol ar bynciau, o gyfathrebu i gynllunio prosiect.

Darganfod adnoddau

Cyfleoedd Cyllido

Gwyddom mai’r mater pwysicaf sy’n wynebu llawer o elusennau a chyrff bach neu ganolig, anllywodraethol yn y gymuned, sy’n gweithio ar ddatblygu rhyngwladol yng Nghymru yw cyllid. Darganfyddwch ar y cyfleoedd ariannu amrywiol o bob cwr o’r byd i gefnogi eich prosiectau undod byd-eang.

Cyfleoedd Cyllido

Cefnogaeth Un-i-Un

Rydym yn cynnig cefnogaeth un-i-un wedi’i arwain gan eich anghenion. Cysylltwch â ni ar unrhyw adeg i ofyn am gymorth gyda’ch partneriaeth. Rydym yn gweithio gyda grwpiau ar:

  • Godi arian
  • Llywodraethu
  • Monitro a gwerthuso
  • Rhywedd a chynhwysiant
  • Diogelu
  • Gwrth-hiliaeth.
Cefnogaeth Un-i-Un

Gwirfoddoli

Hoffech chi gymryd rhan yn y sector undod byd-eang yma yng Nghymru, ac ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr mewn datblygu rhyngwladol? Neu a ydych chi’n arbenigwr sefydledig a hoffai ddefnyddio’r sgiliau presennol i helpu ein sefydliadau partner i gyflawni eu potensial llawn? Mae rhaglen wirfoddoli Hub Cymru Africa yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli gyda’n tîm, yn ogystal ac mewn sefydliadau ar lawr gwlad Cymru Affrica a Masnach Deg ledled Cymru.

Cymorth Gwirfoddoli