Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth a ffurfiwyd yn 2015 rhwng Cymru Masnach Deg, Panel Cynghori Affrica Is-Sahara, Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Rydym yn gweithio ar draws cymdeithas sifil, ac yn dod ag elusennau, unigolion a sefydliadau at ei gilydd o amgylch ein themâu sefydliadol craidd. Mae gan bob partner ei nodau a'i strategaethau ei hun, ond rydym yn unedig o ran cyflawni undod byd-eang ac yn gweithio gyda'n gilydd ar sawl maes, sy’n cynnwys datblygu cynaliadwy, masnach deg, newid hinsawdd, iechyd, bywoliaethau, cydraddoldebau sy’n cynnwys rhyw, hil a chyfiawnder rhwng cenedlaethau.
Rydym yn meddwl yn annibynnol, ac yn gweithredu gyda phwrpas. Rydym yn cael ein hysgogi gan ein strategaeth, ac yn gweithio gydag eraill i gyflawni gweledigaeth a rennir. Rydym yn wrthrychol ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Rydym yn ymroddedig ac yn benderfynol, ac yn gweithredu dros newid parhaol. Rydym yn cael ein harwain gan y tymor hir, yn cyflawni canlyniadau trwy ddyfalbarhad, ac yn parhau i fod yn hyblyg ac yn addasadwy. Rydym yn annog eraill i feddwl a gweithredu tuag at greu effaith hirdymor.
Rydym yn agored, yn onest ac yn fyfyriol. Mae’r ffordd rydym yn gweithio yn gydweithredol ac yn gyfranogol. Rydyn ni’n croesawu her a chraffu. Rydym yn defnyddio adnoddau’n gyfrifol, ac yn atebol am ein gweithredoedd. Rydym yn myfyrio ar ein perfformiad, yn cofleidio dysgu, ac yn annog ffyrdd newydd o wneud pethau.
Rydym yn ymroddedig i gydraddoldeb a chynwysoldeb. Rydym yn parchu amrywiaeth a gwahaniaeth, ac yn credu y dylai pawb gael yr un hawliau a chyfleoedd.
Rydym yn hyrwyddo persbectif rhyngwladolaidd, ac yn ceisio ymgysylltu ac egluro pam rydym yn gwneud yr hyn a wnawn i’r rhai nad ydynt efallai yn gwerthfawrogi undod byd-eang.
Ein gweledigaeth yw creu Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sy'n gweithredu mewn undod â phobl Affrica
Ein cenhadaeth yw bod yn gatalydd dros newid, a chyfrannu at ganlyniadau datblygu byd-eang trwy gefnogi cymuned Cymru ac Affrica.