Bwrdd y Bartneriaeth
Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth o bedwar sefydliad. Mae ein gwaith yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd y Bartneriaeth sy’n cynnwys ymddiriedolwyr o’r sefydliadau partneriaeth ac sy’n cael ei gadeirio’n annibynnol.
Mae cofnodion cyfarfodydd Bwrdd y Bartneriaeth ar gael ar gais.
Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Panel Cynghori Is-Sahara
Cymru Masnach Deg
Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru
Cynghrair y DU
Mae Hub Cymru Africa yn cynrychioli Cymru fel rhan o Gynghrair y DU.
Rydym yn gweithio gyda’n gilydd, trwy gytundeb cynghrair, i wneud y mwyaf o botensial cyfunol yr holl fudiadau sy’n aelodau, er mwyn dileu tlodi ac anghyfiawnder, yn seiliedig ar egwyddorion cydweithredu a phartneriaeth.
Os hoffech wybod am y gwaith a wnawn gyda’n gilydd, cysylltwch â ni.
Bond
LloegrSIDA
Yr AlbanCADA
Gogledd IwerddonSmall International Development Charities Network
Ar-lein (DU-cyfan)SWIDN
De Dwyrain LloegrRhwydwaith Ewropeaidd
Ar y diwrnod rhyngwladol ar gyfer dileu tlodi ar 17 Hydref 2021, sefydlodd grŵp o 10 sefydliad Rwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Mentrau Dinasyddion er Undod Byd-eang. Nod y rhwydwaith hwn yw cefnogi a datblygu’r mudiad o fentrau dinasyddion er undod byd-eang yn Ewrop. Bydd y rhwydwaith yn gweithredu fel llwyfan yn Ewrop i bawb sydd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yn cefnogi mentrau dinasyddion o’r fath mewn undod byd-eang, ac yn credu mewn datblygu dan arweiniad dinasyddion.
Wilde Ganzen
IseldiroeddVastenactie
IseldiroeddWereldhuis
Gwlad BelgPartin
IseldiroeddLa Guilde
FfraincEU can aid!
Gwlad BelgCollective Leadership Institute
Yr AlmaenCISU
Denmarc11.11.11
Gwlad BelgCyllidwyr
Rydym yn cael ein hariannu drwy grantiau gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu Llywodraeth y DU. Fel y prif sefydliad cymorth ar gyfer rhaglen Cymru ac Affrica, rydym yn gatalydd dros weithredu yng Nghymru, yn cyfrannu at ganlyniadau datblygu yn Affrica a thu hwnt, ac yn sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.