EN
Etholiad y Senedd 2026

Cymru, Affrica a’r Byd

Mae mesur cymeriad cenedl yn ymwneud â sut rydym yn ymateb i'r rhai sy'n angen help.

Wrth i ormod o arweinwyr y byd droi eu cefn ar undod byd-eang, rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gynyddu eu hymdrechion i wneud Cymru yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae ein hundod yn cael ei weld ym mhob un o’n cymunedau ar draws Cymru. Drwy’r gymuniolaeth leol chwyldroadol o gapeli, streicio am amodau gwell a chyflog yn y pyllau glo, barddoniaeth heddychol Hedd Wyn yn wyneb y trais ofnadwy yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, Milisia Gweithwyr Gwrth-ffasgaidd yn ail ryfel sifil Sbaen, darparu lloches i ffoaduriaid yr Ail Ryfel Byd o ddinasoedd Prydain a ffoaduriaid Iddewig o’r Holocost, Ffenestr Cymru yn yr Alabama, y fenter gefeillio rhwng Cymru a Lesotho ym 1985, ac yn fwy diweddar, croesawu ffoaduriaid o Syria a’r Wcráin.

Sefydlwyd y Rhaglen Cymru ac Affrica yn 2006, mewn ymateb i’r ymgyrch “make Poverty History”, a welodd weithredu cyhoeddus eang ar draws Cymru a’r DU, yn galw am weithredu yn erbyn tlodi byd-eang.

Yn 2008, daeth Cymru y genedl Fasnach Deg gyntaf ac yn 2015, pasiwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i geisio sicrhau byd iach i’n ddisgynyddion.

Yn yr 2020au, mae globaleiddio wedi cyflwyno heriau inni, o reoleiddio afiechydon heintus i leihau tlodi, a sicrhau ein diogelwch drwy hyrwyddo cymdeithasau mwy sefydlog.

Mae effaith epidemigau, trychinebau naturiol, fel llifogydd neu newyn, a thrychinebau o waith dyn, yn gofyn am ymatebion cyflym a chydweithredol gan y gymuned iechyd ehangach. Mae Cymru wedi cyfrannu at ymdrechion rhyngwladol i helpu’r gwledydd a’r bobl sydd wedi cael eu heffeithio, ac mae hi’n parhau i wneud hyn

Drwy sefyll gydag eraill, mae’r Cymry yn elwa trwy ddysgu, cyfoeth diwylliannol a chysylltiadau dynol. Dyma ein blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.

10 Awgrym er mwyn i Gymru adeiladu dyfodol gwell

  1. Penodi gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros ryngwladoldeb a newid hinsawdd i ddatblygu strategaeth ar gyfer cyfrifoldeb byd-eang, a chwilio am bartneriaeth newydd gyda Llywodraeth y DU i ddarparu prosiectau undod byd-eang.
  2. Cefnogi ac ehangu Rhaglen Cymru ac Affrica i rymuso cymdeithas sifil yng Nghymru, gan gynnwys cysylltiadau cymunedol a phartneriaethau iechyd gyda ffocws ar sefydliadau sydd yn cael eu harwain gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.
  3. Sefydlu partneriaethau moesegol rhwng Cymru a gwledydd sy’n recriwtio gweithwyr iechyd, a chydnabod y cymorth sylweddol y mae’r GIG yn ei dderbyn trwy gyfrwng recriwtio rhyngwladol a’r doniau y mae gweithwyr iechyd diaspora yn eu cyflwyno.
  4. Gweithredu a datblygu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru, i sicrhau bod gweithwyr iechyd yn derbyn cymorth i weithio ar brosiectau iechyd byd-eang. 
  5. Parhau i ddatblygu Cymru fel Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd i gydymffurfio drwy gynnwys masnach deg a chaffael cynaliadwy ym mhob polisi caffael yn y sector cyhoeddus ac mewn cyrff sydd yn cael eu hariannu gan y llywodraeth.
  6. Ceisio dylanwadu ar bolisi masnach y DU i flaenoriaethu masnach deg, hawliau gweithwyr a diogelu’r amgylchedd.
  7. Ceisio cael Cymru i gyrraedd y targed o allyriadau nwy tŷ gwydr sero net erbyn 2025, ac ymgorffori tegwch a chyfiawnder ym mhob targed.
  8. Cefnogi prosiectau undeb byd-eang dan arweiniad y diaspora, a chynnwys ymchwil, adrodd straeon a phrosiectau ymarferol i rannu naratifau newydd, a chreu Cynulliad y Bobl ar Gyfiawnder Byd-eang gyda dylanwad polisi go iawn.
  9. Ariannu rhaglenni addysg a datblygu cynnwys ar gyfer y cwricwlwm sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu am faterion byd-eang, gan gynnwys cyfiawnder hinsawdd, masnach deg, adeiladu heddwch a gwrth-hilioldeb.
  10. Cefnogi cyfleoedd cyfnewid rhyngwladol ar gyfer pobl o bob oedran a chefndir, i gynnig profiadau newid bywydau, datblygu dealltwriaeth ddiwylliannol, adeiladu undod byd-eang ac adeiladu dinasyddion byd-eang gweithredol.

Eisiau dysgu mwy?

Rydym yn awyddus i ddangos y gwaith a wnawn ac i wneud yr achos dros undod byd-eang. Cysylltwch â ni heddiw!

Cysylltwch â ni