EN

Diogelu

Yn Hub Cymru Africa, credwn fod gan bawb yr ydym yn dod i gysylltiad â hwy, waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, beichiogrwydd, ailbennu rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol, yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag pob math o niwed, cam-driniaeth a chamfanteisio.

Yng Nghymru, mae diogelu yn golygu atal ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso ac addysgu’r rhai o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon.

Yn y sector datblygu rhyngwladol, mae’n golygu amddiffyn pobl, yn arbennig menywod, a merched, rhag niwed sy’n codi yn sgil dod i gysylltiad â’n staff neu raglenni.

Yn Hub Cymru Africa, rydym yn gweithio i wella safonau diogelu ym mhob agwedd ar ein gwaith, trwy dair elfen – atal, adrodd ac ymateb.

Mae Hub Cymru Africa yn gweithio o dan polisïau SSAP. Cliciwch yma i ddarllen polisi diogelu

Os oes angen i chi wneud adroddiad am ddigwyddiad diogelu yn ymwneud ag aelod o Hub Cymru Africa neu staff SSAP ebostiwch claireoshea@hubcymruafrica.wales.

Mae Hub Cymru Africa yma i gefnogi partneriaethau Cymru Affrica i gryfhau eu gwaith diogelu, drwy hyfforddiant, cefnogaeth 1:1, ac adnoddau wedi’u curadu. Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar eich arferion diogelu, cysylltwch â ni ar advice@hubcymruafrica.wales.

Gall partneriaid yng Nghymru hefyd gysylltu â WCVA i gael cymorth drwy safeguarding@wcva.cymru a defnyddio’r adnoddau hyn gan WCVA.