EN

Amdanom ni

Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth sy'n cefnogi Cymuned Cymru Affrica, ac sy’n dod â gwaith Cysylltiadau Iechyd Byd-eang Cymru, Panel Cynghori Is-Sahara, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Cymru Masnach Deg at ei gilydd.

Rydym yn cynrychioli'r sector undod byd-eang yng Nghymru, ac yn cefnogi'r sector i hyrwyddo Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig trwy brosiectau partneriaeth rhwng Cymru ac Affrica.

Mae Hub Cymru Africa yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei letya gan Banel Cynghori Is-Sahara yng Nghaerdydd.

Cysylltwch â ni

Ein gwaith

Rydym yn cynnig cyngor, mentora, hyfforddiant, digwyddiadau, codi ymwybyddiaeth, polisi ac eiriolaeth i gynyddu gallu ac effeithiolrwydd y sefydliadau elusennol a chyhoeddus rydym yn gweithio gyda nhw.

Ein gwaith

Cwrdd â'r tîm

Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth ar draws y gymdeithas sifil, sydd yn dod ag elusennau, unigolion a phartneriaid ar draws y byd at ei gilydd.

Cwrdd â'r tîm

Ein Hamcanion

Ein gweledigaeth yw creu Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sy’n gweithredu mewn undod â phobl Affrica.

Ein Hamcanion
The Hub Cymru Africa team July 2022

Ymunwch â'n tîm

Swyddi gwag yn Hub Cymru Africa.

Ymunwch â'n tîm

Siarter Gwrth-Hiliaeth

Mae’r siarter hon ar gyfer elusennau bach a grwpiau cymunedol yng Nghymru sy’n gweithio’n rhyngwladol.

Siarter Gwrth-Hiliaeth
Africa Day 2017 b - EVENTS

Diogelu

Yn Hub Cymru Africa, rydym yn credu fod gan bawb rydyn ni’n dod i gysylltiad â nhw—waeth beth fo’u hoedran, rhyw, beichiogrwydd, rhyw, anabledd, hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol—yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag pob math o niwed, camdriniaeth a chamfanteisio.

Darllen mwy