Edrychwch yn gryno ar wefannau unrhyw sefydliad datblygu mawr, a byddwch yn dod ar draws y gair ‘partneriaeth‘. Mae’r gair yn cael ei ddefnyddio’n aml i siarad am y berthynas rhwng cyrff anllywodraethol gogleddol a deheuol.
Pam bod cymaint o sefydliadau’n teimlo ei bod yn bwysig gweithio gyda phartneriaid? Ydy partneriaethau’n helpu i rymuso sefydliadau eraill, neu ydyn nhw’n adnodd i hyrwyddo agendâu? Mae’r erthygl hon yn trafod rhywfaint o gwestiynau allweddol am weithio gyda’n gilydd.
Mae rhai sefydliadau datblygu wedi bod yn gweithio trwy bartneriaid lleol ers tro. Mae Oxfam, er enghraifft, wedi ceisio gweithio gyda phartneriaid lleol lle bynnag y bo modd ers y 1960au. Ar ôl y ‘degawd coll’ o ddatblygiad yn yr 1980au, dechreuodd llawer o sefydliadau mwy fel Banc y Byd sylweddoli y gallai eu gwaith datblygu fod yn fwy llwyddiannus petasent yn cael rhywfaint o gymorth gan lywodraethau a sefydliadau lleol. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn Nod Byd-eang 17, Partneriaethau ar gyfer y Nodau.
Mae’n cael ei ddefnyddio’n aml i gyfeirio at unrhyw fath o berthynas rhwng dau sefydliad, ond mae diffiniad mwy trylwyr yn awgrymu’r canlynol:
Yn ddelfrydol, dylid mynegi’r elfennau hyn mewn cytundeb partneriaeth.
Mae yna resymau sy’n seiliedig ar werth a rhesymau pragmatig dros weithio mewn partneriaeth.
Mae rhai nodau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn cynnwys meithrin cydberthnasau, cynaliadwyedd, cryfhau cymdeithas sifil, dysgu oddi wrth ei gilydd a grymuso trwy gyfranogiad. Yn nhermau pragmatig, mae gan sefydliadau lleol berthynas â chymunedau fel arfer, ac maen nhw’n fwy sensitif i ddiwylliannau ac amodau lleol. Mae partneriaethau yn gallu bod yn fwy pwerus gyda’i gilydd, a gellir rhannu costau. Fodd bynnag, gall partneriaethau fod yn broblemus weithiau, ac efallai y bydd anghytundebau ynghylch pwy sy’n gyfrifol am beth, er enghraifft.
Beth sy’n gwneud partneriaeth lwyddiannus?
Gallai’r rhestr fod yn ddiddiwedd, ond rhai ffactorau sy’n gallu cyfrannu tuag at bartneriaeth yw:
Mae pobl yn beirniadu’r defnydd o’r term ‘partneriaethau’ ym maes datblygu, gan fod y gwahaniaethau o ran pŵer rhwng partneriaid yn aml mor fawr nes bod cydymddibyniaeth yn broblemus. Er enghraifft, pan fydd un partner yn dibynnu ar y llall am gyllid, efallai na fydd yn gallu mynegi unrhyw broblemau gyda’r bartneriaeth rhag ofn colli ei gyllid. Pan fo un partner yn fwy pwerus, efallai y bydd rhagdybiaeth eu bod yn ‘gwybod orau’ ac felly, yn dweud wrth eu partner arall beth i’w wneud – mae hyn yn groes i amcanion partneriaeth – fel grymuso.
Mae partneriaethau’n cymryd ymdrech a meddwl i’w sefydlu a’u cynnal a’u cadw, a rhaid cymryd gofal yn arbennig os oes gwahaniaeth clir o ran pŵer rhwng partneriaid.
Ydy’r partneriaethau yn eich sefydliad yn seiliedig ar gydymddibyniaeth?
Oes gan un partner bŵer dros y llall? Sut mae hynny’n cael ei reoli?
Ydy partneriaethau’n dda bob amser? A yw’n well peidio â gweithio mewn partneriaeth weithiau?
Ystyriwch rôl pŵer, cydraddoldeb a phersonoliaeth wrth gyflawni eich prosiect ac yn eich partneriaethau.