Mae prosiectau Newid a DigiCymru yn darparu cymorth 1:1 am ddim, hyfforddiant a chyllid i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru i’ch helpu archwilio sut y gall offer digidol wella cyflawni eich gwasanaethau.
Bydd grwpiau trafod Reddit yn gadael i chi bostio cwestiynau a chael cyngor gan arbenigwyr ac ymarferwyr.
Mae THET – Technology for Effective Partnership Collaboration yn drosolwg ardderchog o sut i ddefnyddio offer digidol wrth gynnal partneriaethau iechyd rhyngwladol, ond mae ganddo wersi ar gyfer prosiectau eraill.
Mae Digital Candle yn wasanaeth rhad ac am ddim i elusennau sydd eisiau galwad ffôn awr o hyd gydag arbenigwr digidol. Gall elusennau gael cyngor ar unrhyw agwedd ar faterion digidol neu farchnata digidol, o strategaeth ddigidol i Google Ads, ac o ddarparu gwasanaethau o bell i’r cyfryngau cymdeithasol.