Rydym yma i gefnogi partneriaethau i gryfhau eu gwaith diogelu, trwy gyfrwng hyfforddiant, cefnogaeth 1:1, ac adnoddau wedi’u curadu.
Mae ein hyfforddiant ar agor i unrhyw un sy’n gweithio mewn partneriaeth fyd-eang, ac rydym yn annog y ddau bartner i fynychu’r hyfforddiant gyda’i gilydd os yn bosibl.
Mae rhagor o wybodaeth am hyfforddiant ar gael yma
Gallwch hefyd ofyn am gymorth â ffocws (hyd at 6 sesiwn) i weithio’n benodol ar arferion Diogelu.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar eich arferion diogelu, cysylltwch â ni drwy e-bostio advice@hubcymruafrica.wales.
Mae gan y sefydliadau canlynol adnoddau a chanllawiau ar gyfer partneriaethau sy’n gweithio ym maes Undod Byd-eang:
Mae’r adnoddau hyn yn ddefnyddiol wrth gefnogi arweinwyr ac ymddiriedolwyr i newid diwylliant, a sut i fodelu diwylliant diogelu cadarnhaol yn eich sefydliad:
Mae’r adnoddau hyn yn cefnogi rôl a chyfrifoldebau Ymddiriedolwyr Diogelu yn eu sefydliad:
Mae’r adnoddau hyn yn cefnogi Pwyntiau Ffocws Diogelu i ddiffinio eu rôl a’u cynllun gwaith, ac i asesu eu harferion presennol.
Canllaw ar gyfer integreiddio diogelu i ddatblygu cais, ac eiriol ar roddwyr am gyllid ar gyfer arferion diogelu.