EN
< Adnoddau Codi Arian, Fideo

Chwalu Jargon | Gweminar

Sut ydych chi’n esbonio’ch prosiect orau a chael y cyllid sydd ei angen arnoch? Yn y sesiwn hon, rhannodd Julian Rosser, Uwch Reolwr Datblygu yn Hub Cymru Africa, ei gyngor arbenigol ar sut i fynd ati orau i ddelio gyda cheisiadau grant.

Mae codi arian drwy grantiau yn gallu bod yn rhwystredig. Mae’n gallu teimlo fel bod bwlch enfawr rhwng beth mae cymuned ei angen neu ei eisiau, a beth mae cyllidwyr yn chwilio amdano. Bydd y recordiad hwn yn eich helpu i chwalu rhywfaint o fythau, a llywio’r jargon i gyflwyno’ch gwaith yn llwyddiannus.