Mae platfformau codi arian ar-lein yn eich galluogi i gyflwyno a hyrwyddo eich ymgyrchoedd codi arian, casglu arian a monitro’ch cynnydd.
Just Giving oedd un o’r platfformau cyntaf ar gyfer codi arian ar-lein, ac mae’n parhau i fod yn un o’r rhai mwyaf. Ar hyn o bryd, mae ganddo 22 miliwn o ddefnyddwyr ar draws y byd. Mae elusennau’r DU yn talu ffi tanysgrifio misol ac yna, canran o roddion.
Mae Virgin Money Giving yn blatfform nid-er-elw a grëwyd gan Virgin Money i helpu elusennau i godi mwy o arian ar-lein. Hyd yn hyn, maen nhw wedi helpu 18,000 o elusennau yn y DU a 890,000 o godwyr arian i godi mwy na £685 miliwn.
Adeiladwyd CAF Donate gan Charities Aid Foundation (CAF). Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr greu ffurflenni rhoi arian ar-lein a botymau, a’u hychwanegu yn hawdd at wefannau, e-byst a thudalennau Facebook. Yn gyntaf, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer offeryn adrodd CAF, Dangosfwrdd Elusen CAF, ond yna, cewch fynediad i adroddiadau manwl am eich ymgyrchoedd, rhoddwyr a rhoddion.
Mae The Good Exchange yn brosiect nid-er-elw, sy’n cyflwyno prosiectau sydd angen cyllid i’r rhai sydd â grantiau i’w rhoi trwy broses baru awtomataidd tryloyw â sefydliadau
corfforaethol, busnesau ac unigolion. Gall pob prosiect dderbyn rhoddion gan y cyhoedd hefyd.
Mae GoFundMe wedi partneru gyda PayPal Giving Fund i ddarparu arian. Mae rhoddion yn cael eu prosesu gan PayPal a GoFundMe, cyn cael eu hanfon i PayPal Giving Fund – sefydliad nid-er-elw sy’n eu casglu a’u dosbarthu i’r elusen ddewisol. Mae’r holl elusennau sydd wedi’u cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau yn y DU wedi’u rhestru yng nghyfeiriadur elusennol GoFundMe, ac mae arian yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i’r elusen gan PayPal Giving Fund.
Cyfleoedd Cyllido Grantiau gan Hub Cymru Africa.
Cyfleoedd Cyllido Datblygiadau Rhyngwladol gan BOND.
Gwefan International Development Funding Llywodraeth y DU.