EN
< Adnoddau Offer Digidol

Cydweithio a Chyfarfod

Platfform i’ch helpu chi i gyfarfod a chydweithio

  1. Mae Microsoft Teams yn llwyfan cyfathrebu busnes rhad ac am ddim. Mae’n cynnig sgyrsio yn y gweithle, fideo-gynadledda, storio ffeiliau, a chydweithio bwrdd gwyn. Mae Teams yn disodli platfformau negeseuon busnes a chydweithio eraill sydd yn cael eu gweithredu gan Microsoft, gan gynnwys Skype for Business a Microsoft Classroom
  2. Mae Slack yn blatfform cyfathrebu, sydd yn cynnig llawer o nodweddion sgwrsio amser real, gan gynnwys ystafelloedd sgwrsio parhaus (sianeli) wedi’u trefnu yn ôl pwnc, grwpiau preifat, a negeseuon uniongyrchol. Yn dda am gael llawer o wahanol bobl i gyfrannu at drafodaethau â thema.
  3. Mae gan Google suite amrywiaeth o adnoddau cydweithredu sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd, sgwrsio, rheoli prosiectau, calendr, e-bost, sleidiau, rhannu dogfennau, cydweithio bwrdd gwyn (bwrdd Jam)  a thaenlenni. Mae’r rhan fwyaf ar gael i’w defnyddio am ddim, er eu bod eisiau arian ar gyfer rhai swyddogaethau
  4. Mae Zoom yn darparu cyfleuster fideo-gynadledda a negeseuon syml ar draws unrhyw ddyfais. Mae’n boblogaidd iawn ar draws y byd, a daeth yn gyflym y dechnoleg fwyaf poblogaidd yn 2020 ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau. Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd sylfaenol, ond bydd angen i chi dalu am gyfrif am gyfarfodydd hirach gyda mwy o bobl.
  5. Mae WhatsApp yn cael ei ddefnyddio gan bron bob grŵp Cymru Affrica; mae’n wasanaeth rhadwedd, llais dros y rhyngrwyd a negeseua aml-lwyfan, sy’n perthyn i Facebook. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr anfon negeseuon testun a negeseuon llais, gwneud galwadau llais a fideo, a rhannu lluniau, dogfennau, lleoliadau defnyddwyr, a chyfryngau eraill
  6. Mae IMO yn boblogaidd mewn rhannau helaeth o Affrica, ap galw a negeseua gwib, tebyg i WhatsApp, gyda galwadau sain a fideo, negeseuon gwib, sgyrsiau grŵp, dogfen a rhannu ffeiliau.
  7. Mae Teamwork yn adnodd rheoli prosiectau ar-lein, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gydweithio ar ddatblygu prosiectau, gwylio llinellau amser a dyrannu tasgau. Mae fersiwn am ddim ar gyfer prosiectau bach.
  8. Mae Evernote yn gymhwysiad rhad ac am ddim hyblyg, y gellir ei ddefnyddio ar-lein ac all-lein ac mae ar gael ar PC, Mac, Android ac iPhone / iPad (IOS). Mae’r defnyddiau’n cynnwys rheoli prosiectau, rheoli tasgau, rhestrau cyswllt, gwybodaeth am randdeiliaid, cynnwys hyfforddiant cynllunio, nodiadau mentora, rhannu adnoddau, nodiadau ymchwil, neu gadw golwg ar ddigwyddiadau a chyfranogwyr
  9. Mae Asana yn adnodd rhad acam ddim, sy’n eich galluogi i greu cynllun prosiect ac ystod o dasgau y gellir eu neilltuo i aelodau o’ch tîm. Ar ôl cwblhau pob tasg, gellir ei wirio, sy’n rhoi safbwynt clir i chi am y ffordd mae eich prosiect yn datblygu, a’r ffordd mae pob aelod o’r tîm yn cyfrannu at lwyddiant y prosiect. Mae aelodau’r tîm yn rhydd hefyd i atodi ffeiliau a gadael sylwadau.

Beth sydd orau?

  • Ar gyfer sgwrs testun: WhatsApp neu IMO
  • Ar gyfer cyfarfodydd fideo: Zoom neu Microsoft Teams 
  • Ar gyfer rheoli prosiectau: Teamwork neu Evernote 
  • Ar gyfer grwpiau trafod: Slack neu WhatsApp 
  • Ar gyfer storio a rhannu ffeiliau: Microsoft Teams neu Google Docs
Cymwysiadau negeseua ar gyfer datblygu rhyngwladol