EN
< Adnoddau Cyfathrebu, Offer Digidol

Cyfathrebu Allanol

Cael cefnogaeth gyda chyfathrebu digidol

Mae Google Ad Grants yn cynnig gofod hysbysebu rhad ac am ddim i gyrff anllywodraethol cymwys ar Google, sy’n eich galluogi i ddangos neges ddewisol eich elusen yn strategol i bobl sy’n chwilio am gyrff anllywodraethol. Gall unrhyw elusen gofrestredig yn y DU dderbyn tua £8,000 mewn hysbysebion AdWords bob mis am ddim.

Casglu Lluniau

Mae Flickr yn cael ei ddefnyddio gan lawer o sefydliadau i gael eu lluniau ar-lein – bwriwch olwg ar FCDO, EU ECHO ac UN Women i ddechrau. Mae llawer ond nid pob un o’r lluniau yn rhad ac am ddim i’w defnyddio o dan Creative Commons, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r drwydded. 

4   ffynhonnell o luniau heb freindaliadau

  1. pexels.com
  2. unsplash.com
  3. pixabay.com
  4. freeimages.com

Dylunio Graffig

3 Adnodd  Am Ddim i Helpu gyda Graffeg
Mae Canva yn adnodd hawdd ar gyfer creu graffeg, a’r unig beth sydd angen i chi ei wneud ydy llusgo a gollwng, felly does dim angen unrhyw sgiliau technegol arnoch. Mae’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ond gellid ei ddefnyddio hefyd ar gyfer gwahoddiadau i ddigwyddiadau, eiconau gwefan neu ffeithluniau. Ac yn well fyth, gall elusennau gael y fersiwn premiwm am ddim.

Mae Pablo yn rhad ac am ddim i elusennau, ac mae ei luniau stoc, blychau testun, a meintiau ei gynnwys yn berffaith i’r rheiny sydd eisiau lanlwytho’n syth i’r cyfryngau cymdeithasol. Mae gan Pablo dros 600,000 o luniau i ddewis ohonynt, neu gall elusennau lanlwytho eu rhai eu hunain. Ar ôl eu dewis, gellir haenu lluniau gyda thestun, a’u haddasu yn ôl maint ar gyfer Pinterest, Instagram, Facebook, neu Twitter.

Mae Adobe Spark yn adnodd ar-lein ar gyfer creu graffeg ddeniadol yn gyflym gydag ystod o nodweddion a lluniau wedi’u hadeiladu mewn. Mae amrywiaeth o dempledi, o negeseuon cyfryngau cymdeithasol i daflenni, a gall pobl sydd ddim yn ddylunwyr greu graffeg sy’n edrych yn broffesiynol mewn munudau.

Adeiladu eich gwefan eich hun

Does dim angen i chi dalu neb i ddylunio eich gwefan. Os ydych chi eisiau rhywbeth syml, gallwch ei wneud eich hun.

4 Adeiladwyr gwefannau rhad ac am ddim a hawdd

Mae Blogger, o Google, yn ffordd hawdd o greu gwefan seiliedig ar flogiau. Does dim angen unrhyw sgiliau dylunio gwe arnoch, ac mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio. 

Mae Wix yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn dda ar gyfer gwefannau bach, lle mae dyluniad da yn bwysig. Mae pecynnau am ddim ar gael.
Mae Weebly yn hawdd iawn i’w ddefnyddio, a gall ymdrin â gwefannau mwy. Mae ganddynt opsiynau am ddim a phecynnau fforddiadwy eraill. Yn arbennig o dda os ydych chi’n gwerthu pethau.

Mae Webnode yn un o’r opsiynau rhad gorau ar gyfer datblygu gwefannau amlieithog. Un o’r adeiladwyr gwefannau a ddefnyddir fwyaf yn fyd-eang, yn enwedig ymhlith defnyddwyr Ewropeaidd. Ddim yn dda os ydych chi eisiau gwerthu pethau. Mae pecynnau am ddim ar gael.

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhad ac am ddim ac yn hawdd i’w defnyddio, a lle mae llawer o’ch cynulleidfa yn barod.  

Dysgwch fwy am y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer elusennau.

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhad ac am ddim ac yn hawdd i’w defnyddio, a lle mae llawer o’ch cynulleidfa yn barod.  

Dysgwch fwy am y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer elusennau.

5 Platfform Cyfryngau Cymdeithasol y dylech eu hystyried

Facebook Yn boblogaidd ar draws y DU ac Affrica, a bydd llawer o’ch cysylltiadau ar Facebook yn barod. Gallwch greu tudalen yn hawdd i hyrwyddo’ch gwaith a chael gwirfoddolwyr neu roddion.

Mae Twitter yn dda ar gyfer eiriolaeth, gan fod eraill yn dosbarthu eich neges ymhellach drwyddo,  yn ogystal â rhwydweithio â phobl a sefydliadau ar draws y byd. 

Gall Instagram fod y platfform i chi os oes gennych chi luniau gwych i’w rhannu o’ch gwaith. Gall Instagram helpu i adeiladu ymgysylltiad, a chyfeirio traffig at eich gwefan.

Mae LinkedIn yn ddefnyddiol ar gyfer adeiladu a chynnal rhwydweithiau o gysylltiadau proffesiynol. 

YouTube  yw’r lle i ddangos fideos gwych o’ch gwaith.

Golygu ffilm a sain

Gallwch olygu clipiau ffilm a sain syml gyda’r offeryn golygu hwn a leolir mewn porwr:  www.veed.io.