Mae datblygu strategaeth ar gyfer eich cyfathrebuu yn ffordd wych o’ch helpu i aros ar y trywydd iawn a chanolbwyntio’ch cyfathrebu, fel eu bod bob amser yn eich helpu i weithio tuag at amcanion cyffredinol eich sefydliad.
Mae strategaeth gyfathrebu yn nodi sut rydych chi’n bwriadu defnyddio gwahanol adnoddau cyfathrebu, er enghraifft y cyfryngau cymdeithasol, blogiau, datganiadau i’r wasg, eich gwefan a marchnata drwy e-bost i weithio tuag at gyflawni eich nodau. Mae’n cael ei defnyddio fel bod pawb sy’n gweithio yn eich sefydliad yn ymwybodol o sut y bydd cyfathrebu yn gweithio i chi.
Dyma restr fer o sut y gallwch ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu ar gyfer eich sefydliad:
Er mwyn i’ch cyfathrebu eich helpu i gyflawni’ch nodau, mae’n helpu i nodi mewn un paragraff beth mae eich sefydliad eisiau ei gyflawni trwy greu strategaeth gyfathrebu. Drwy nodi hyn yn glir yn y ddogfen, mae gennych rywbeth i gyfeirio’n ôl ato wrth ddatblygu syniadau, ac mae’n atgoffa eraill yn eich tîm a allai fod yn cynorthwyo gyda’ch cyfathrebu yn y dyfodol.
Drwy amlinellu nodau eich sefydliad yn glir, byddwch wedyn yn gallu awgrymu sut y bydd cyfathrebu yn eich helpu i gyflawni’r rhain. Fel rhan o’r adran hon, meddyliwch am 4-5 neges allweddol y byddech eisiau eu cyfleu ynghylch nodau, pwrpas a gweithgareddau eich sefydliad, a chyfeirio’n ôl at y rhain yn eich holl weithgareddau cyfathrebu.
Efallai eich bod chi eisiau ymgysylltu ag ystod eang o bobl drwy eich cyfathrebu – sefydliadau eraill, partneriaid, y cyhoedd, gwleidyddion a ffigyrau cyhoeddus, neu sefydliadau. Ar ôl i chi fapio’r gwahanol gynulleidfaoedd rydych chi eisiau cysylltu â nhw, meddyliwch a nodwch pa negeseuon rydych chi eisiau eu hanfon atynt.
Mae’n werth meddwl am sut rydych chi’n bwriadu cysylltu â’r gwahanol gynulleidfaoedd hyn trwy wahanol ffrydiau cyfathrebu, a nodi hyn. Er enghraifft, a fyddwch chi eisiau siarad â phartneriaid trwy farchnata e-bost, a’r cyhoedd yn gyffredinol trwy Ddatganiadau i’r Wasg? Os felly, gallwch ychwanegu hyn at eich cynllun, fel ei bod yn amlwg i chi gyda phwy rydych chi’n siarad, beth rydych chi’n dweud wrthyn nhw, a ble rydych chi’n cysylltu â nhw.
Byddwch eisoes wedi meddwl am bwy rydych chi’n eu targedu gyda phob sianel cyfathrebu, ond nodwch yn fwy manwl yma sut rydych chi’n bwriadu eu defnyddio. Er enghraifft, ai e-byst a’r we fydd eich prif sianeli? A wnewch chi ddefnyddio cysylltiadau cyhoeddus pan fydd gennych ddigwyddiad mawr iawn yn unig, neu a wnewch chi geisio meddwl am ffyrdd eraill o gael sylw yn y wasg ar draws y flwyddyn?
Fel rhan o’ch cynllun, nodwch eich holl ddyddiadau pwysig ar gyfer y chwe mis nesaf i flwyddyn, gan edrych ar eich cerrig milltir mewnol a’ch dyddiadau pwysig yn ogystal ag unrhyw rai allanol perthnasol, fel Diwrnod Iechyd y Byd, neu’r Nadolig. Nodwch ble a phryd y byddwch yn gweld cynnydd sydyn mewn gweithgareddau cyfathrebu, ac unrhyw ddyddiadau cylchol, fel bwletinau e-bost misol, ynghyd â syniad bras o’r meysydd lle byddwch yn dyrannu unrhyw gyllideb cyfathrebu.
Mae’n bwysig iawn cynnwys gwerthuso yn eich cynllun cyfathrebu – sut mae llwyddiant yn edrych, a pha amcanion ydych chi eisiau eu cyflawni ar gyfer y flwyddyn? Mae nodi’r hyn rydych chi eisiau ei gyflawni, a sut y byddwch chi’n monitro ac yn gwerthuso eich gweithgarwch yn erbyn yr amcanion hyn, yn allweddol i sicrhau eich bod chi’n gweithio tuag at eich nodau. Gallai hyn fod yn syml (pennu nifer optimaidd yr e-byst a agorir am y flwyddyn) neu’n gymhleth (ydych chi wedi codi proffil eich sefydliadau trwy gael eich cynnwys mewn rhai cyhoeddiadau?). Ceisiwch gynnwys yma pa mor aml rydych chi’n mynd i edrych ar gynnydd, boed yn wythnosol, yn fisol neu’n chwarterol.
Os hoffech drafod unrhyw anghenion cyfathrebu penodol neu drefnu rhywfaint o gymorth cyfathrebu wedi’i deilwra, e-bostiwch: communications@hubcymruafrica.wales.