EN
< Adnoddau Cyfathrebu

Cyflwyniad i Adrodd Stori Meistr

Mae Kieran O’Brien, cyfarwyddwr yr asiantaeth adrodd straeon Ministory (Ministory.co.uk) a chrëwr y fethodoleg ‘Storytelling for a cause’ yn cyflwyno’r gweithdy ar-lein hwn, sydd yn archwilio natur straeon ac adrodd straeon ar gyfer sefydliadau sydd yn gweithio mewn undod byd-eang.

Mae gan Kieran dros 15 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector elusennol ar ystod eang o brosiectau ac ymgyrchoedd creadigol. Ei gred ganolog yw bod angen i ni fod yn adroddwyr stori. Nid yn unig adrodd straeon i ennyn emosiynau, ond straeon sy’n sylweddol, a chreu’r sylfeini lle gall newid ystyrlon ddigwydd.