EN
< Adnoddau Llywodraethiant

Cynllunio strategol ar gyfer sefydliadau ym maes datblygu rhyngwladol

View in other formats

DOCX PDF GOOGLE DOCS

Cyflwyniad

Sut ydych chi’n teimlo am gynllunio strategol? A yw’n creu delweddau o gyfarfodydd diddiwedd, dogfennau llawn jargon na ellir eu darllen sy’n cael eu gadael ar silff, heb eu defnyddio fyth? Mae llawer o sefydliadau bach yn gweithredu o brosiect i brosiect, ac yn esblygu eu cynllunio wrth iddynt fynd ymlaen. Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol oedi a myfyrio ar yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni, a’r hyn yr hoffech ei wneud yn y dyfodol, a pham. Dyma yw hanfod cynllun strategol.

Mae cynllunio strategol yn ymwneud â gwneud penderfyniadau ynghylch sut rydych chi fel sefydliad yn diffinio’ch nodau a sut rydych chi’n llywio eich llwybr sefydliadol i gyflawni hynny. Mae’n eich helpu i wneud penderfyniadau am yr hyn rydych chi’n gwneud a dim yn gwneud, a sut rydych chi’n ei wneud. Mae’n eich helpu i dargedu’ch adnoddau’n fwy effeithiol a chynaliadwy, ac yn eich helpu i wybod pryd rydych chi wedi cyflawni eich nodau a sut rydych chi’n ymadael yn y ffordd orau ar gyfer y cymunedau rydych chi’n gweithio gyda nhw.
Yn Hub Cymru Africa, gallwn eich cefnogi gyda’r broses hon trwy gyfrwng ein rhaglen cymorth datblygu uwch. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio advice@hubcymruafrica.cymru, a gallwn weithio drwy’r broses hon gyda chi a’ch partneriaid.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r adnoddau canlynol i ddarganfod mwy am gynllunio strategol ac i weithio drwy’r broses hon, fel sefydliad a phartneriaeth, gan ystyried dynameg pŵer a mabwysiadu ymagwedd gwrth-hiliol.

Adnoddau

Cynllunio Strategol: Pecyn Cymorth ar gyfer Cyrff Anllywodraethol bach

Intrac Mae’r pecyn cymorth hwn, a ysgrifennwyd gan Rick James, yn ganllaw cryno i gynllunio strategol, a fwriedir yn benodol i’w ddefnyddio gan sefydliadau anllywodraethol bach (NGOs).

Mae dolenni i offer fel PESTLE a dadansoddi SWOT, dadansoddi gan randdeiliaid.

Cynllunio Strategol: Pecyn Cymorth ar gyfer Cyrff Anllywodraethol bach | INTRAC

Adborth partneriaid ar gyfer Adolygiad Strategol

Dyma rhywfaint oi enghreifftiau o gwestiynau proc y gallech eu defnyddio i gael adborth gan eich partner fel mewnbwn i adolygiad/cynllun strategol.

dborth partneriaid ar gyfer Adolygiad Strategol | Hub Cymru Africa

Ymadael / trosglwyddo o Bartneriaethau Rhyngwladol - pecyn cymorth ar gyfer cyrff anllywodraethol bach

Mae’r pecyn cymorth hwn, a ysgrifennwyd gan Lucy Morris, yn ganllaw cryno ar gyfer ymadael / trosglwyddo o bartneriaethau rhyngwladol, a fwriedir yn benodol i’w ddefnyddio gan sefydliadau anllywodraethol bach (NGOs).

Ymadael / trosglwyddo o Bartneriaethau Rhyngwladol - pecyn cymorth ar gyfer cyrff anllywodraethol bach | INTRAC

Templed cynllun strategol

Mae’r templed cynllun strategol hwn yn briodol pan:

  • Rydych yn creu cynllun strategol ar gyfer sefydliad bach neu ganolig.
  • Nad oes gan eich sefydliad broses neu dempledi cynllun strategol penodol.

 

Templed cynllun strategol | Tools4development

Cael eich arwain yn lleol fel mudiad gwrth-hiliol

Cael eich arwain yn lleol fel mudiad gwrth-hiliol

Mae’r canllaw drafft yn ceisio cefnogi sefydliadau rhyngwladol o wahanol feintiau mewn gwledydd incwm uwch, mewn partneriaeth â chydweithwyr o bob cwr o’r byd, i newid eu harferion a’u defnydd o bŵer i gael eu harwain yn fwy lleol. 

Mae’r adrannau ar werthoedd a diwylliant, a phwrpas a strategaeth yn arbennig o berthnasol i gynllunio strategol.

Cael eich arwain yn lleol fel mudiad gwrth-hiliol | Gweithgor BOND dan arweiniad pobl leol

Adnodd ymwybyddiaeth pŵer 2.0

Mae’r adnodd hwn yn eich helpu i wneud dynameg pŵer yn eich partneriaethau yn fwy gweladwy. Mae’r fersiwn newydd hon yn barod i helpu’ch partneriaethau i nodi anghydbwysedd mewn pŵer gwneud penderfyniadau a chyfleoedd, i newid pŵer.

Adnodd ymwybyddiaeth pŵer 2.0 | Partos