Mae rôl pobl anabl yn y sector Cymru-Affrica wedi bod yn ffocws prosiect partneriaeth rhwng Anabledd Cymru ac Affrica, Hub Cymru Africa ac Anabledd Cymru. Yn sgil defnyddio dulliau cymysg o arolygon a chyfweliadau gyda phobl anabl, sefydliadau pobl anabl a sefydliadau Cymru-Affrica, nod yr ymchwil hwn oedd nodi’r arferion a’r dyheadau presennol ar gyfer cynyddu cyfranogiad pobl anabl yn y sector Cymru-Affrica. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at nifer o heriau, ac yn cynnig rhywfaint o atebion ar gyfer gwella cynhwysiant pobl anabl.
Yn hanesyddol, mae lleisiau pobl anabl wedi bod ar goll o’r agenda datblygu, er gwaethaf bod yn fuddiolwyr targed allweddol o’r ymdrechion ileihau tlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol. Er bod ymdrechion clir wedi bod yng Nghymru i gynyddu gweithgarwch pobl anabl, does dim llawer o gynnydd wedi cael ei wneud.
Fe wnaeth cyfradd ymgysylltu isel pobl anabl gyda’r ymchwil atgyfnerthu’r arsylwad presennol nad yw gwaith sefydliadau Cymru-Affrica yn uchel ar y radar ar gyfer pobl anabl neu eusefydliadau. Roedd y canfyddiadau’n awgrymu bod llawer o bobl anabl yng Nghymru yn teimlo ei bod yn ddigon anodd sicrhau eu hawliau sylfaenol a chael gafael ar gymorth yn eu bywydau dydd i ddydd, ac felly, eu bod yn blaenoriaethu materion lleol dros faterion rhyngwladol.
Nid yw’r heriau o gynnwys pobl anabl yn unigryw o bell ffordd isector Cymru-Affrica. Fodd bynnag, mae llawer o bobl anabl a wnaethgymryd rhan yn yr ymchwil eisoes yn wirfoddolwyr gweithredol yn eu cymunedau lleol, ac yn chwilio am gyfleoedd i wneud gwahaniaeth.
Maen nhw’n aml yn defnyddio eu profiad bywyd fel pobl anabl i gyfrannu at hybu cydraddoldeb anabledd yng Nghymru.
Fe wnaeth pobl anabl sydd yn mynegi diddordeb yng ngwaith Cymru-Affrica nodi’r pwysigrwydd o wybod pa gyfleoedd sy’n bodoli ar gyfer eu cyfraniad, o deimlo bod croeso iddynt ac o wneud cyfraniad ystyrlon.
Gall pobl gael eu hannog hefyd drwy wybod y byddai ymdrechion yn cael eu gwneud i ddeall a mynd i’r afael â phryderon ynghylch hygyrchedd a chynhwysiant.
Yn ogystal, roedd pobl yn ymwybodol bod eu dealltwriaeth gyfyngedig owahaniaethau diwylliannol ac ymarferol rhwng bywydau pobl anabl yng Nghymru ac Affrica yn golygu ei bod hi’n bwysig bod pobl anabl Affrica yn rhan o’r gwaith o osod y blaenoriaethau mewn perthynas ag unrhyw waith sydd wedi’i gynllunio i fod o fudd iddynt.
Dangosodd sefydliadau Cymru-Affrica awydd i fod yn gynhwysol, ac roeddent yn cydnabod bod safbwyntiau gwahanol yn cyflwyno gwerth i’w gwaith.
Fodd bynnag, mae llawer o sefydliadau yn fach iawn, ac nid ydynt eisio ehangu, neu maen nhw wedi’u cyfyngu oherwydd nad oes ganddynt lawer o adnoddau, capasiti ac oherwydd mannau gwaith cyfyngedig. Mae diffyg casglu data cydraddoldeb yn cyflwyno her hefyd o ran monitro unrhyw ymdrechion i wella cynhwysiant.
Mae rhywfaint o gamau syml y gall sefydliadau datblygu eu defnyddio i gyfleu eu gwaith a chroesawu cynnwys pobl anabl. Byddai dangos sut mae pobl anabl yn cymryd rhan ac yn gwneud cyfraniad yn barod a chynnig cyfleoedd i gyfnewid dealltwriaeth a dangos undod yn chwalu stereoteipiau ac yn annog cyfranogiad.
Gall y sefydliadau partner a ysgogodd yr ymchwil hon chwarae rhan hefyd mewn cefnogi sefydliadau i wella’r ffordd maen nhw’n cynnwys pobl anabl, drwy ddarparu adnoddau a hyfforddiant priodol.