Gellid darparu rhywfaint o hyfforddiant, addysgu a thiwtorialau syml gan ddefnyddio offer cyfarfod, negeseua a chydweithio.
I lawer o ddysgwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau mwy cymhleth, gallai helpu i ddefnyddio platfform dysgu digidol. Mae’r rhain yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu’n weithredol â chynnwys addysgol trwy rannu dogfennau, fideo, darlithoedd a thiwtorialau. Mae addysgwyr yn defnyddio platfformau dysgu digidol fel rhan o’u cyfarwyddyd i wneud dysgu’n fwy diddorol a rhyngweithiol i fyfyrwyr ac i gynnig gwersi y gellir eu personoli ar gyfer pob dysgwr.
Mae BrainCert yn blatfform hyfforddi cynhwysfawr, sy’n galluogi sefydliadau i gynnal hyfforddiant personol ar-lein fel cyflwyno cyrsiau cyfunol i’w cwblhau ar eu cyflymder eu hunain, arholiadau ardystio, fideo-gynadledda a chydweithio amser real gan ddefnyddio ystafell ddosbarth rithwir integredig. Mae ganddo gyfrifon am ddim i ddechreuwyr ac mae’r cyfrifon uwch yn fforddiadwy.
System Rheoli Dysgu ar-lein am ddim yw Moodle, sy’n darparu datrysiad ffynhonnell agored i addysgwyr ledled y byd ar gyfer e-Ddysgu sy’n raddadwy, yn addasadwy ac yn ddiogel gyda’r dewis mwyaf o weithgareddau sydd ar gael.
Mae Panopto yn darparu meddalwedd recordio darlithoedd, sgringastio, ffrydio fideo, a meddalwedd rheoli cynnwys fideo a ddefnyddir yn aml mewn amgylcheddau E-ddysgu. Mae’n eich galluogi i reoli eich darlithoedd a recordiwyd yn ganolog, Mae Panopto yn ymwneud â’r fideo i gyd. Mae ganddo gyfrifon sylfaenol am ddim a chyfrifon pro fforddiadwy.
Mae Google Classroom yn wasanaeth gwe am ddim a ddatblygwyd gan Google ar gyfer ysgolion sy’n ceisio symleiddio creu, dosbarthu a graddio aseiniadau. Prif bwrpas Google Classroom ydy symleiddio’r broses o rannu ffeiliau rhwng athrawon a myfyrwyr. Amcangyfrifir bod rhwng 40 a 100 miliwn o ddefnyddwyr yn defnyddio Google Classroom.
Mae Learning@Wales yn blatfform E-ddysgu cenedlaethol sy’n cael ei reoli gan Dîm Dysgu Digidol Cymru.