Daeth Deddf Gwrth-Gyfunrhywiaeth 2023 (y Ddeddf) i rym yn Uganda ym mis Mai 2023, i wahardd unrhyw fath o berthynas rywiol rhwng unigolion o’r un rhyw, ac i wahardd hyrwyddo neu gydnabod cysylltiadau rhywiol rhwng unigolion o’r un rhyw. Mae cosbau’n amrywio o ddirwyon neu flynyddoedd yn y carchar, i’r gosb eithaf am droseddau ‘cyfunrhywiaeth gwaethygedig’.
Ers ei chyflwyno i’r Senedd, mae adroddiadau’n dangos cynnydd mewn trais ar sail rhywedd, bygythiad, a throseddau casineb tuag at y gymuned LHDT+. Mae dryswch ynghylch y Ddeddf ymhlith y cyhoedd yn cyfreithloni gwarcheidwadaeth a gweithredoedd o drais mob yn erbyn pobl hoyw ‘hysbys’ neu honedig, a hyd yn oed eu lladd.
Gan fod y Ddeddf yn tanseilio’r ymrwymiad i hawliau dynol sy’n gynhenid yng Nghyfansoddiad Wganda, lansiwyd apêl dan ystyriaeth yn Llys Cyfansoddiadol Uganda.
Cyn gynted ag y pasiwyd y Ddeddf, cafodd pedair Deiseb Gyfansoddiadol eu ffeilio yn y Llys Cyfansoddiadol gan herio bron pob un o’r ddwy adran ar bymtheg o’r Ddeddf Gwrth-Gyfunrywioldeb. Ym mis Ebrill 2024 cadarnhaodd y Llys Cyfansoddiadol yn Uganda y Ddeddf ond dyfarnodd i ddiddymu 3 adran o’r Ddeddf:
Mae heriau cyfreithiol pellach yn parhau ar adeg cyhoeddi.
Bwriad y briff hwn ydy darparu rhywfaint o gyd-destun a gwybodaeth i bartneriaethau Cymru ac Affrica, ynghyd ag awgrymu rhywfaint o gamau gweithredu, i sicrhau diogelwch cyfranogwyr y prosiect a sefydliadau partner, a sefyll mewn undod â phobl LHDT+ yn Uganda a thu hwnt.
Rydym yn parhau i sefyll mewn undod â’r gymuned LHDT+ yn Uganda, o ran tynnu sylw at y materion maen nhw’n eu hwynebu, ac o ran datblygu camau ymarferol ar gyfer partneriaethau.
Mae Hub Cymru Africa yn cydnabod y gallai partneriaethau unigol sy’n siarad yn gyhoeddus yn erbyn y ddeddfwriaeth greu risgiau i bartneriaid yn Uganda, rhag ofn eu bod yn cael eu gweld fel bod yn “hyrwyddo cyfunrhywiaeth” o dan delerau’r ddeddfwriaeth.
Felly, bydd Hub Cymru Africa yn parhau i gynrychioli’r gymuned gyfan i leihau’r risg hon. Yn dilyn datganiad gan Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru ym mis Ebrill 2023, gweminar ym mis Mehefin 2023 a digwyddiad dysgu ar y cyd yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2024, mae Hub Cymru Africa yn bwriadu gwneud gwaith pellach i weithio mewn undod â’r gymuned LHDT+ yn Uganda.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hefyd, bod camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn Uganda am amrywiaeth rhyw a rhywedd, fel bod yn agenda Gorllewinol a ysgogir yn allanol, a byddwn yn ymwybodol o hyn, ac yn sicrhau bod lleisiau pobl Uganda yn flaenoriaeth, ac yn arwain ein hymateb ar bob cam.
Mae’r canllaw hwn yn cael ei lywio gan fewnbwn gan weithredwyr ac eiriolwyr hawliau dynol o’r gymuned LHDT+ yn Uganda, o gyfweliadau gyda’u partneriaid yng Nghymru, a thry ymgynghori ag arbenigwyr ym maes diogelu a thrais ar sail rhywedd. Rydym yn cydnabod bod y cyd-destun yn Uganda yn gymhleth, yn newid trwy’r amser, ac yn cyflwyno amrywiaeth o risgiau y mae angen i bartneriaethau fod yn ymwybodol ohonynt ac ymateb iddynt wrth raglennu.
Yr egwyddor allweddol sy’n sail i’n holl waith yw ‘Na Wna Newid’.
Mae’n hanfodol bod partneriaethau’n ystyried risgiau rhaglennu yn y cyd-destun hwn, ac yn ymateb i’r rhain yn briodol ac yn ddiogel. Dylai partneriaid gydnabod hefyd, bod yr amgylchedd presennol yn peri risg uniongyrchol o greu niwed sylweddol i’r gymuned LHDT+ yn Uganda.
Rydym wedi drafftio asesiad risg, sy’n ystyried y risgiau diogelu ychwanegol sydd yn cael eu cyflwyno gan y Ddeddf. Mae rhywfaint o enghreifftiau o fesurau lliniaru wedi’u cynnwys yn y ddogfen hefyd.
Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa’n hylifol, ac yn debygol o amrywio o fewn cyd-destun pob prosiect.Rydym yn argymell bod partneriaethau’n adolygu’r asesiad risg hwn gyda’i gilydd, i drafod a chytuno pa fesurau y byddant yn eu cymryd i sicrhau diogelwch staff, gwirfoddolwyr a phersonél ac eraill sy’n gysylltiedig â’r prosiect.
Dyma rywfaint o enghreifftiau o’r mesurau hyn:
Mae’r cyd-destun yn newid drwy’r amser, ac yn destun newid, ac argymhellir bod partneriaethau’n adolygu’r risgiau hyn yn rheolaidd. Gallwch gael help gan Hub Cymru Africa i drafod unrhyw faterion a chael cyngor ar ymateb, drwy e-bostio advice@hubcymruafrica.wales.
Rydym yn hyrwyddo ymagwedd rhyngsectorol at ddiogelu, sy’n cydnabod y croestoriadau rhywedd, hil, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd a mynegiant (SOGIE). Rydym yn canolbwyntio ar gynhwysiant ac ar hawliau pob unigolyn sy’n cyflawni ac sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni hefyd.
Mae fframwaith ar gyfer dadansoddi cynhwysiant SOGIE, a ddatblygwyd yn ddiweddar gan UNESCO, yn categoreiddio rhaglenni ar 3 lefel:
Mae’r tair lefel hyn yn gryno, yn golygu ‘yn ddiogel, yn cael eich gweld a’ch cynnwys.’
Rydym yn cydnabod y dylai ein rhaglenni fod yn cyrraedd Lefel 1 yn y cyd-destun presennol: SOGIE – amddiffynnol, ac yn sicrhau bod ein staff, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr y prosiect yn ddiogel, a bod niwed yn cael ei leihau.
Rydym yn cydnabod hefyd, yr angen am raglenni sy’n mynd i’r afael yn benodol ag anghenion y gymuned LHDT+, ac sy’n ystyried y risgiau presennol, ac sy’n gweithio tuag at gynnwys y gymuned LHDT+ yn llawn ac yn gyfartal yn Uganda. Os oes gennych syniadau am bartneriaid neu sefydliadau yng Nghymru ac Uganda a fyddai’n gweithio yn y maes hwn, cysylltwch â ni ar advice@hubcymruafrica.wales.
Mae pobl ac actifyddion LHDT+ yn Uganda yn gofyn am gefnogaeth y gymuned ryngwladol. Fe ofynnon ni i Tom Twongyeirwe Junior, actifydd blaenllaw yn Uganda, beth allai pobl yng Nghymru ei wneud i helpu. Gallwch ddarllen ei erthygl yma.
Mae’n bwysig i sefydliadau yng Nghymru, mewn ymgynghoriad agos â’u partneriaid yn Uganda, wneud penderfyniad sefydliadol gwybodus ynghylch p’un a ddylid siarad yn gyhoeddus am y Ddeddf, gan ystyried y risgiau posibl i’ch partner a/neu i’r gymuned LHDT+ yn Uganda.
Rydym yn argymell eich bod yn osgoi siarad yn gyhoeddus, yn benodol am y gyfraith, ond yn hytrach, gwneud datganiadau mwy cyffredinol am gynnal hawliau dynol a chynwysoldeb. Mae Hub Cymru Africa yn gallu gwneud datganiadau cyhoeddus ar ran cymuned Cymru ac Affrica, sydd â risg is.
Ar gyfer partneriaid yng Nghymru
Cefnogi sefydliadau LHDT+ yn Uganda sy’n herio’r ddeddfwriaeth, er enghraifft, trwy gyllid. Mae rhestr o’r rhain yn yr adran adnoddau canlynol.
Dilyn grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol, fel eich bod yn cael eich hysbysu’n uniongyrchol am y cyd-destun newidiol.
Cynhyrchwyd gan gyfreithiwr o Uganda yn seiliedig ar Ddeddf Gwrth-Gyfunrywioldeb 2023, gyda diweddariadau ers dyfarniad y llys cyfansoddiadol ym mis Ebrill 2024.
Daeth Deddf Gwrth-Gyfunrhywiaeth 2023 i rym ym mis Mai 2023, i wahardd unrhyw fath o berthynas rywiol rhwng unigolion o’r un rhyw, i wahardd hyrwyddo neu gydnabod cysylltiadau rhywiol rhwng unigolion o’r un rhyw, ac ar gyfer materion cysylltiedig eraill.
Cyn gynted ag y pasiwyd y Ddeddf, cafodd pedair Deiseb Gyfansoddiadol eu ffeilio yn y Llys Cyfansoddiadol gan herio bron pob un o’r ddwy adran ar bymtheg o’r Ddeddf Gwrth-Gyfunrywioldeb. Ym mis Ebrill 2024 dyfarnodd y Llys Cyfansoddiadol yn Uganda i ddiddymu tair adran o’r Ddeddf:
Mae rhagor o heriau cyfreithiol ar waith ar hyn o bryd.
Nid yw’r gyfraith yn troseddoli cael eich adnabod fel unigolyn LHDTC+ a LHDTRhC+. O dan Adran 2 a 3, mae’r Ddeddf yn troseddoli cyfathrach rywiol rhwng unigolion o’r un rhyw. Fodd bynnag, mae sawl croesddywediad yn y gyfraith. Er enghraifft, mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy’n troseddoli gweithio gydag unigolion LHDTRhC+ neu ddarparu gwasanaethau iddynt. Mae’n ymddangos ymhellach, ei bod yn gwadu hawl unigolion LHDTRhC+ i ymarfer eu hawliau a’u rhyddid sylfaenol, fel rhyddid cymdeithasu.
Yma, rydym yn crynhoi uchafbwyntiau allweddol y Ddeddf:
Darpariaeth | Ystyr / Dehongli | Cosb |
Diffiniad | Yn y cymal diffiniad, mae’n amlwg bod y gyfraith wedi cael ei phasio ar gyfer Sefydliadau Anllywodraethol (NGOs). Felly, mae’n bwysig rhoi sylw i’r gyfraith. | |
Trosedd cyfunrhywiaeth (Adran 2) |
NODER: Nid yw’r adran hon yn troseddoli arddel hunaniaeth yn LHDTRhC+. Dim ond ymddygiad â phobl o’r un rhyw mae’n ei droseddoli, neu ymdrechion i gyfranogi mewn ymddygiad â phobl o’r un rhyw. |
Carchar am oes heb y posibilrwydd o gael ei ryddhau. |
Cyfunrhywiaeth waethygedig (Adran 3) |
Dywedir bod unigolyn sy’n ceisio unrhyw un o’r uchod wedi cyflawni’r drosedd o geisio cyflawni cyfunrhywiaeth waethygedig. |
Cosb marwolaeth |
Nid yw rhoi cydsyniad i rywun o’r un rhyw yn amddiffyniad o gwbl (Adran 6) |
|
|
Meithrin perthynas amhriodol (Adran 8) |
|
Ar gyfer (a), carchar am oes.
Ar gyfer (b) – (d), carchar am gyfnod nad yw’n fwy nag 20 mlynedd. |
Dirwyo priodasau o’r un rhyw (Adran 10) |
|
Carchar heb fod yn fwy na 10 mlynedd. |
Hyrwyddo cyfunrhywiaeth (Adran 11) |
Oherwydd y ddau derm annelwig hyn (gwneud neu achosi), mae effaith y cymal hwn yn troseddoli gwaith eiriolaeth sy’n amddiffyn hawliau a rhyddid sylfaenol unigolion LHDTRhC+.
Oherwydd y termau annelwig hyn (hwyluso, annog, gwylio a normaleiddio), mae effaith y cymal hwn yn gwneud rhoddwyr sy’n darparu cyllid i gyrff anllywodraethol sy’n darparu gwasanaethau cymorth i unigolion LHDTRhC+ yn agored i ganlyniadau cyfreithiol.
Oherwydd y pedwar term annelwig hyn, mae effaith y cymal hwn yn gwneud cyrff anllywodraethol sy’n darparu gwasanaethau cymorth i unigolion LHDTRhC+ yn agored i ganlyniadau cyfreithiol. |
Carchar
am gyfnod nad yw’n fwy nag 20 mlynedd i unigolyn, a dirwy nad yw’n fwy na UGX 1 biliwn [USD 270,270.270] ar gyfer endid cyfreithiol fel corff anllywodraethol neu gwmni. Gall trwydded yr endid cyfreithiol gael ei ganslo hefyd. |
Anghymhwyso rhag cyflogaeth a datgelu cofnod o droseddau rhywiol (Adrannau 12 a 13) |
|
Carchar am gyfnod nad yw’n fwy na 2 flynedd, a therfynu cyflogaeth. |
Honiadau rhywiol ffug (Adran 15) | Dywedir bod unigolyn sy’n gwneud honiadau ffug neu gamarweiniol yn fwriadol i’r perwyl bod unigolyn wedi cyflawni trosedd o dan y gyfraith, wedi cyflawni’r drosedd hon. | Carchar heb fod yn fwy na blwyddyn. |
Adsefydlu unigolyn cyfunrhywiol (Adran 16) | Ar ôl euogfarnu unigolyn am drosedd cyfunrhywiaeth, gall llys orchymyn y dylid darparu gwasanaethau cymdeithasol i garcharor i’w “adsefydlu”. | Adsefydlu gorfodol. |