Yng Nghymru, mae diogelu yn golygu atal ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, ac addysgu’r rhai o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cefnogi gwaith diogelu yng Nghymru.
Mae Gweithdrefnau Diogelu cenedlaethol -Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion am rolau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr, i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso.
Mae’r Gweithdrefnau’n helpu ymarferwyr i weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r canllaw diogelu statudol Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl.
Gallwch gael cefnogaeth ar gyfer eich gwaith yng Nghymru drwy CGGC yma https://wcva.cymru/cy/diogelu/
Mae gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru nifer o adnoddau rhagorol o dan y tab ‘llywodraethu da’. Bydd angen i chi gofrestru am ddim er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau’r Hwb.
And here
DBS and Conviction History