EN
< Adnoddau Codi Arian, Fideo

Dosbarth Meistr mewn Ysgrifennu Cais: Mynegi’ch Pwynt Gwerth Unigryw | Gweminar

Ydych chi’n poeni nad yw eich ceisiadau am gyllid yn sefyll allan? Ydych chi’n tynnu sylw gwneuthurwyr grantiau? Ydych chi eisiau gloywi sut rydych chi’n siarad am eich Pwynt Gwerthu Unigryw?

Yn y sesiwn Cinio a Dysgu hon, mae Rachal Minchinton o Richard Newton Consulting yn helpu ymarferwyr undod byd-eang i adnabod a siarad am eu sefydliadau mewn ffordd sy’n denu sylw cyllidwyr ac sy’n cadw eu diddordeb.

Mae Rachal wedi bod yn codi arian yn llwyddiannus am fwy na 17 mlynedd, ac wedi ymrwymo i achosion sy’n cynnwys cyfiawnder cymdeithasol, iechyd a phobl ifanc. Mae ganddi brofiad sylweddol o godi arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol, ac mae ganddi hanes o ddiogelu incwm gwirfoddol i wireddu gwytnwch a thwf sefydliad.