Dywedir yn aml fod llun werth mil o eiriau – mae cael lluniau sy’n adlewyrchu eich gwerthoedd a’ch gwaith yn hanfodol er mwyn dangos yr effaith rydych chi’n ei chael. Mae cymryd amser i wneud hyn yn iawn yn werth bob munud, yn enwedig gan y gellir eu defnyddio mewn sawl ffordd, o ddatganiadau i’r wasg a’r cyfryngau cymdeithasol, i adrodd am eich gwaith neu i gefnogi gweithgareddau codi arian.
Mae The Narrative Project yn cynnig awgrymiadau ar sut i dynnu a defnyddio lluniau ar gyfer eich sianeli cyfathrebu – rydym wedi eu crynhoi yma. Mae taflen ganllawiau Hub Cymru Africa ar dynnu lluniau, y gellir ei lawrlwytho, ar gael ar ffurf PDF.
Rhoddwyd y themâu hyn ar brawf i archwilio pa syniadau gweledol sy’n gwneud pobl yn fwy tebygol o gefnogi datblygiad, o’r mwyaf tebygol i’r lleiaf tebygol o ennill cefnogaeth.
Canfuwyd bod lluniau sy’n dangos bod rhaglenni datblygu yn helpu pobl i gyrraedd eu potensial dynol yn ddarbwyllol ymysg aelodau’r Cyhoedd sy’n Ymgysylltu. Mae’r math hwn o lun yn cefnogi’r syniad bod datblygu yn helpu pobl i gyflawni annibyniaeth dros y tymor hir hefyd.
Mae lluniau “cyn ac ar ôl” sy’n dangos newidiadau sylweddol mewn cymunedau lleol, yn ei gwneud hi’n glir bod rhaglenni datblygu yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn y byd.
Mae lluniau sy’n dangos bod pobl mewn gwledydd sy’n datblygu yn rhannu ein nodau – fel cael addysg neu ddarparu ar gyfer eu teulu – yn creu cysylltiadau dynol ac yn cyfleu’r syniad bod datblygu yn helpu pobl i adeiladu sylfeini annibyniaeth.
Er bod lluniau sy’n deffro trueni yn creu ymatebion emosiynol mewn rhai pobl, nid ydynt yn hyrwyddo’r syniad bod pobl mewn gwledydd sy’n datblygu yn bartneriaid gweithredol mewn datblygu.
Lluniau o bobl nad oedd yn dangos y cyd-destun maen nhw’n byw ynddo oedd y lleiaf effeithiol o ran adeiladu cymorth ar gyfer datblygu. Mae pobl yn teimlo’n dda gweld lluniau o blant hapus, ond nid yw’n cael yr un effaith â lluniau â themâu sy’n dangos y potensial ar gyfer cynnydd.
Mae’r elfennau pwysicaf yn cael eu gosod ar neu o gwmpas y llinellau a’r pwyntiau croestoriad. Dychmygwch fod eich llun wedi’i rhannu’n naw segment cyfartal gan ddwy linell fertigol a dwy linell lorweddol. Ceisiwch leoli’r elfennau pwysicaf yn eich golygfa ar hyd y llinellau hyn, neu yn y mannau lle maen nhw’n croestorri. Bydd gwneud hyn yn ychwanegu cydbwysedd a diddordeb i’ch llun. Mae rhai camerâu hyd yn oed yn cynnig opsiwn i osod grid gyda’r rheol traeanau dros y sgrin LCD, gan ei gwneud hyd yn oed yn haws i’w defnyddio.
Mae gosod eich prif bwnc oddi ar y canol, fel gyda’r rheol traeanau, yn creu llun mwy diddorol, ond gall adael gwagle yn yr olygfa a allai wneud iddo deimlo’n wag. Dylech gydbwyso ‘pwysau’ eich pwnc trwy gynnwys gwrthrych arall o lai o bwysigrwydd i lenwi’r gofod.
Pan rydym yn edrych ar lun, mae ein llygad yn cael ei dynnu’n naturiol ar hyd llinellau. Trwy feddwl am sut rydych chi’n gosod llinellau yn eich llun, gallwch effeithio ar y ffordd rydyn ni’n edrych ar y llun, ac ein tynnu ni mewn i’r llun, tuag at y pwnc, neu ar daith ‘trwy’r’ olygfa.
Rydym wedi’n hamgylchynu gan gymesuredd a phatrymau, yn naturiol ac o waith dyn, a gallant greu cyfansoddiadau trawiadol iawn, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle nad oes disgwyl iddynt.
Cyn tynnu lluniau o’ch pwnc, cymerwch amser i feddwl am o ble y byddwch yn ei dynnu. Yn hytrach na’i dynnu o lefel y llygad yn unig, ystyriwch dynnu llun o yn uchel uwchlaw, i lawr ar lefel y ddaear, o’r ochr, o’r cefn, o bell i ffwrdd, yn agos iawn, ac ati.
Sawl gwaith ydych chi wedi tynnu’r hyn roeddech chi’n meddwl fyddai’n lun gwych, dim ond i ddarganfod bod y llun terfynol yn brin o effaith oherwydd bod y pwnc yn blendio mewn i gefndir prysur? Chwiliwch am gefndir plaen ac anymwthiol, a threfnwch eich llun fel nad yw hwn yn tynnu sylw neu’n tynnu oddi wrth y pwnc.
Oherwydd bod ffotograffiaeth yn gyfrwng dau ddimensiwn, mae’n rhaid i ni ddewis ein cyfansoddiad yn ofalus i gyfleu’r ymdeimlad o ddyfnder a oedd yn bresennol yn yr olygfa wirioneddol. Gallwch greu dyfnder mewn llun trwy gynnwys gwrthrychau yn y blaen, y canol a’r cefndir.
Mae’r byd yn llawn gwrthrychau sy’n gwneud fframiau naturiol perffaith, fel coed, bwâu a thyllau. Trwy osod y rhain o amgylch ymyl y cyfansoddiad, rydych chi’n helpu i ynysu’r prif bwnc o’r byd y tu allan.
Trwy gropio mewn yn dynn ar y llygad, mae sylw’r gwyliwr yn canolbwyntio’n llawn arno. Trwy gropio’n dynn o gwmpas y pwnc, rydych chi’n dileu’r ‘sŵn’ cefndir, ac yn sicrhau bod y pwnc yn cael sylw di-wahân y gwyliwr.
Weithiau, rydych chi’n tynnu llun da ond mae angen i chi ei gropio neu ei oleuo rhyw ychydig er mwyn ei fywiogi. Mae yna lawer o wahanol olygyddion a meddalwedd lluniau ar-lein a allai helpu i wella eich lluniau. Mae golygyddion ar-lein fel Pixlr Express yn ddefnyddiol a hefyd, apiau golygu ar gyfer eich ffôn fel Snapseed.
Os hoffech drafod unrhyw anghenion cyfathrebu penodol neu drefnu rhywfaint o gymorth cyfathrebu wedi’i deilwra, e-bostiwch: communications@hubcymruafrica.wales.