EN
< Adnoddau Iechyd Cydraddoldeb Ehywedd a Grymuso MenywodIechyd

Hawliau Atgenhedlu yn Affrica Is-Sahara | Cymuned Ymarfer Rhywedd

Mae Isimbi Sebegeni yn rhoi trosolwg o’r sefyllfa, ac yn edrych ar yr heriau mewn perthynas â hawliau atgenhedlu yn Affrica Is-Sahara, yn penodol yn Kenya.

Bydd y siaradwr gwadd, Betty Ngeno, yn siarad am ei gwaith fel arbenigwr rhywedd yn Kenya, a’i gwaith yn ymgyrchu dros hawliau atgenhedlu. Bydd hi’n rhoi’r cyfle i ni ddysgu ac ennill awgrymiadau ymarferol mewn perthynas â deall y rhwystrau sydd yn wynebu menywod wrth geisio cael mynediad i gymorth iechyd atgenhedlol yn Kenya.

Isimbi yw Swyddog Diaspora a Chynhwysiant Hub Cymru. Mae hi’n angerddol am fenywod ac iechyd atgenhedlol ar gyfandir Affrica. Mae hi wedi cynnal dwy astudiaeth ymchwil sylfaenol ansoddol ar y penderfynyddion, y dylanwadau a’r canfyddiadau mewn perthynas â  chynllunio teulu ymhlith menywod yn Affrica Is-Sahara, yn benodol yn Uganda. O ran ei gyrfa academaidd, mae hi wedi ennill gradd B.A (Anrh) mewn Gwyddorau Cymdeithasol a gradd Meistr mewn Astudiaethau Rhywedd.

Mae Betty Ngeno yn arbenigwr ar rywedd, sydd yn gweithio gyda Girls in Global fel Llysgennad Cydraddoldeb Rhywedd ar gyfer Kenya. Mae hi’n arbenigwr datblygu, sydd yn cael ei harwain gan egwyddorion cydraddoldeb rhywedd a thegwch, parch at hawliau dynol, grymuso menywod, amddiffyn plant a gwaith tîm i sicrhau datblygu cynaliadwy.