EN
< Adnoddau LHDTC+ Amrywiaeth a ChynhwysiantCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod

Hawliau i Pride

Gyda Pride Cymru ar y gorwel, cynhaliodd Panel Cynghori Is-Sahara a Hub Cymru Africa weminar byw ym mis Awst 2022 ar hawliau LHDTC+ yn Affrica a’r DU. Mae pobl LHDTC+ ar draws y byd yn wynebu gwahaniaethu, trais a hyd yn oed marwolaeth oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol a’u hunaniaeth rhywedd.

Mae gan dri o bob pum gwlad yn Affrica ddeddfau o hyd sydd wedi cael eu hetifeddu o reolaeth drefedigaethol sydd yn troseddoli cyfunrhywiaeth, gyda chosbau mewn rhai meysydd, sy’n cynnwys y gosb eithaf. Roeddem eisiau taflu goleuni ar bobl LHDTC+ sydd yn byw yn Affrica, a’r rheiny sydd wedi dod i Gymru a’r DU.