EN
< Adnoddau Iechyd

HIV/AIDS a gwaith datblygu

Mae cynnydd wedi bod yn y frwydr yn erbyn HIV/AIDS, gyda gostyngiadau enfawr yn nifer yr achosion sydd yn cael eu trosglwyddo o’r fam i’r plentyn, a mwy o driniaethau.  Fodd bynnag, yn 2018, cafodd 1.7 miliwn o bobl eu heintio.  Ar wahân i broblemau gyda chymhlethdod a chostau triniaeth, yn aml, mae’r rhai sy’n byw gyda HIV/AIDS yn cael eu stigmateiddio, sydd yn arwain at allgau cymdeithasol. Mae’r erthygl hon yn archwilio’r cysylltiadau rhwng HIV / AIDS a thlodi, pam y gall HIV/AIDS gyfrannu at allgau cymdeithasol, a rhywfaint o strategaethau ar gyfer gwella.

Tlodi a HIV / AIDS

Gall HIV/AIDS waethygu tlodi yn yr un modd ag y gall unrhyw gyflwr iechyd, drwy atal pobl rhag gweithio, a chynyddu costau gofal iechyd. Ond hefyd, gall gwahaniaethu atal pobl rhag cael diagnosis neu driniaeth.  Ceir tystiolaeth hefyd, bod HIV/AIDS yn fwy cyffredin ymhlith y tlawd absoliwt am sawl rheswm, gan gynnwys; mynediad gwael at addysg a gofal iechyd, a diffyg pŵer i drafod rhyw diogel (yn enwedig ymhlith menywod), a dim digon o arian i brynu condomau.

Mathau o stigma sy’n gysylltiedig â HIV

Y mathau mwyaf cyffredin o stigma sy’n gysylltiedig â HIV yw:

  • Stigma corfforol, fel ynysu a thrais.
  • Ynysu cymdeithasol a cholli hunaniaeth.
  • Stigma geiriol.
  • Stigma sefydliadol sy’n cynnwys colli bywoliaeth a thai neu driniaeth wahaniaethol mewn lleoliadau cyhoeddus.

Pam bod stigma?

Mae yna lawer o afiechydon cyffredin, felly pam bod HIV / AIDS yn cario stigma arbennig o gryf? Mae’r elusen AVERT yn awgrymu sawl rheswm:

  • Mae’n glefyd cymharol newydd, sy’n peryglu bywyd, ac sy’n creu ofn.
    Mae’n gallu bod yn gysylltiedig ag ymddygiadau sydd eisoes wedi’u stigmateiddio, neu hyd yn oed eu troseddoli, mewn sawl lle, fel cyfunrhywiaeth, defnyddio cyffuriau, gwaith rhyw a sawl phartneriaeth rywiol. Felly, mae’r unigolyn sydd â’r afiechyd yn cael ei ystyried yn euog mewn rhyw ffordd ac yn cael ei feio, ac yn defnyddio dadleuon moesol neu grefyddol yn aml.
    Mae yna lawer o chwedlau am sut mae HIV yn cael ei drosglwyddo.
    Gall cyffuriau gwrth-retrofirysol effeithio ar ymddangosiad pobl, sy’n arwain at wahaniaethu.
    Yn Affrica Is-Sahara, y ffordd fwyaf cyffredin o drosglwyddo HIV yw trwy ryw heterorywiol, felly mae’r stigma’n aml yn canolbwyntio ar sawl partner rhyw, a gwaith rhyw.

Gall stigma gael ei atgyfnerthu gan sawl ffactor:

  • Y Llywodraeth: Mae gan 71% o wledydd rywfaint o gyfreithiau i atal gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd yn byw gyda HIV/AIDS, ond yn aml, maen nhw’n gwrth-ddweud y rhain gyda deddfau eraill. Er enghraifft, profion gorfodol, cael eu diarddel o’r fyddin a’u herlyn ar gyfer trosglwyddo HIV/Aids yn anfwriadol.
  • Gofal Iechyd: Mae profion yn cael eu gwneud heb ganiatâd a diffyg cyfrinachedd. Weithiau, mae cleifion yn cael eu trin yn wael, sydd yn digwydd oherwydd ofn staff meddygol o ddal HIV.
  • Cyflogaeth: Bydd rhai cwmnïau’n terfynu cyflogaeth neu ddim yn cyflogi pobl sydd â HIV / AIDS.
  • Cyfyngiadau ar deithio: Mae 47 o wledydd yn gosod cyfyngiadau ar deithio ar gyfer pobl sydd â HIV / AIDS.
  • Cymuned: Efallai y bydd pobl yn dioddef cam-drin geiriol a chorfforol a hyd yn oed yn cael eu llofruddio. Weithiau, mae aelodau o’r teulu yn stopio gofalu am bobl sydd â HIV/AIDS oherwydd eu bod ofn sgil-effeithiau cymdeithasol ac ariannol posibl.