EN
< Adnoddau Diogelu

Hyfforddiant Diogelu

Gweld mewn fformatau eraill

GOOGLE DOCS DOCX PDF

Cyflwyniad

Mae Hub Cymru Africa yn cynnal hyfforddiant rheolaidd ym maes diogelu ar gyfer cymuned Cymru ac Affrica. Mae’r hyfforddiant hwn sydd am ddim, yn cael ei gynnal ar-lein trwy Zoom, ac mae angen cymryd rhan weithredol er mwyn creu’r amgylchedd dysgu gorau, ac elwa ohono.

Rydym yn darparu pedair lefel o hyfforddiant:

1. Hanfodion Diogelu: i bob o staff, gwirfoddolwr a staff partner sydd heb gwblhau hyfforddiant Diogelu eto mewn cyd-destun rhyngwladol.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn tywys cyfranogwyr drwy’r arferion a’r gofynion Diogelu hanfodol ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio mewn undod byd-eang â phartneriaid yn Affrica. Bydd yr hyfforddiant yn: 

  • Diffinio diogelu o fewn cyd-destun rhyngwladol, ac o fewn y cyd-destun yng Nghymru
  • Esbonio safonau diogelu byd-eang a sut i’w bodloni
  • Trafod sefyllfaoedd ac ymddygiadau sy’n ymwneud â phryder ynghylch diogelu  
  • Esbonio’r cylch diogelu, a’r tair colofn atal, adrodd ac ymateb, a sut i gymhwyso’r rhain yn eich sefydliad gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar oroesi
  • Rhannu adnoddau i asesu risg a nodi bylchau mewn ymarfer.
  • Rhannu templedi ar gyfer dogfennau allweddol y bydd angen i chi gael yn eu lle i gefnogi’r arferion gorau o ran atal, ymateb ac adrodd.

2. Diogelu ar gyfer Pwyntiau Ffocws ac Ymddiriedolwyr: Mae Hanfodion Diogelu yn ragofyniad.

Mae’r hyfforddiant hwn yn adeiladu ar yr hyfforddiant hanfodion, ac yn canolbwyntio ar:

  • Rolau a chyfrifoldebau’r “Pwynt Ffocws Diogelu”
  • Rolau a chyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr mewn perthynas â diogelu, gan gynnwys cyfrifoldebau penodol yr “Ymddiriedolwr Diogelu”
  • Arwein yddiaeth, ac ar  hwyluso diwylliant sefydliadol diogel
  • Ymateb i ddigwyddiad, gan gynnwys rheoli ymchwiliadau
  • Adrodd, gan gynnwys adrodd i’r Comisiwn Elusennau
  • Gofynion rhoddwyr mewn perthynas â diogelu
  • Rhannu templedi ar gyfer dogfennau pwysig y bydd angen i chi gael yn eu lle i gefnogi’r arferion gorau o ran atal, ymateb ac adrodd.

3. Hyfforddiant Diogelu Gloywi

Ar gyfer unrhyw un sydd wedi cwblhau hyfforddiant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac sydd eisiau gloywi eu hymarfer trwy drafod astudiaethau achos. 

Gallwch hefyd gyflwyno eich astudiaeth achos eich hun i’w thrafod, drwy anfon e-bost atom ar advice@hubcymruafrica.wales.

4. Diogelu Partneriaethau Iechyd

Rydym hefyd yn cynnal hyfforddiant sy’n benodol i bartneriaethau Iechyd ar gais. E-bostiwch ni i holi am hyn ar advice@hubcymruafrica.wales

Gallwch archebu eich dyddiad hyfforddiant nesaf yma: hubcymruafrica.wales/eventsMae Hub Cymru Africa a CGGC yn cynnig Cymorthfeydd Diogelu 1:1 hefyd i drafod unrhyw agwedd ar eich ymarfer. Gallwch ofyn am sesiwn ar unrhyw adeg drwy e-bostio advice@hubcymruafrica.wales

Darparwyr hyfforddiant Diogelu Eraill

Mae CGGC yn cynnal hyfforddiant rheolaidd i ymddiriedolwyr sefydliadau yng Nghymru. Gallwch gael mwy o wybodaeth yma.

Mae’r tîm Ymgysylltu Rhyngwladol yn y Comisiwn Elusennau yn cynnal sesiynau diogelu rheolaidd ar gyfer ymddiriedolwyr a staff gweithredol hefyd. Gallwch gofrestru am wybodaeth yma.

Hyfforddiant ar-lein

Mae’r canlynol yn gysylltiadau â sefydliadau eraill sy’n cynnig hyfforddiant a chymorth diogelu.

Yr Hyfforddiant Diogelu

Gellir ei ddefnyddio gan sefydliadau pan fyddant yn cynnal hyfforddiant mewnol ar ddiogelu, naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol ar gyfer sesiynau byrrach.

Darparwr a chost:

  • Hwb Cymorth Diogelu
  • Mae angen cyfrif am ddim
  • Cwrs am ddim.

Hyd yr amser:

  • 2-4 awr.

Oes cyfieithiadau ar gael?

  • Sleidiau wedi’u cyfieithu i lawer o ieithoedd gan gynnwys Swahili, Hawsa, Somalieg, Arabeg.
Yr Hyfforddiant Diogelu

Hyfforddiant Diogelu Hanfodol

Cwrs ar-lein y gallwch ei wneud yn eich amser eich hun.

Darparwr a chost:

  • Kaya Connect/
  • Humanitarian Leadership Academy
  • Mae angen cyfrif am ddim
  • Cwrs am ddim.

Hyd yr amser:

  • 6 modiwl, 1.5 awr.

Oes cyfieithiadau ar gael?

  • Arabeg
  • Ffrangeg
  • Sbaeneg
Hyfforddiant Diogelu

Hyfforddiant Diogelu i Bwyntiau Ffocws

Darparwr a chost:

  • Hwb Adnoddau a Chymorth Diogelu
  • Mae angen cyfrif am ddim
  • Cwrs am ddim

Hyd yr amser:

  • 4 modiwl
  • 3 awr yr un.

Oes cyfiethiadau ar gael?

  • Saesneg yn unig
Hyfforddiant Diogelu i Bwyntiau Ffocws

Prif ffrydio Atal ac Ymateb Cam-drin Rhywiol

Mae hyfforddiant rhyngweithio yn cwmpasu’r elfennau sylfaenol y dylai pob sefydliad eu cael i atal ac ymateb yn ddigonol i gamfanteisio a cham-drin rhywiol (SEA) mewn cymunedau.

Darparwr a chost:

  • Disaster Ready
  • Mae angen cyfrif am ddim
  • Cwrs am ddim.

Hyd yr amser:

  • 35 munud.

Oes cyfieithiadau ar gael?

  • Saesneg yn unig.
Prif ffrydio Atal ac Ymateb Cam-drin Rhywiol

Pecyn Hyfforddi Rhaglenni Diogel

Deunyddiau i Hwylusydd eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant mewnol.

Darparwr a chost:

  • Hwb Adnoddau a Chymorth Diogelu | Nigeria

Hyd yr amser:

  • 4.5 awr.

Oes cyfieithiadau  ar gael?

  • Swahili
  • Ffrangeg
  • Arabeg.
Pecyn Hyfforddi Rhaglenni Diogel

Deunyddiau'r cwrs ar gyfer atal cam-fanteisio a cham-drin rhywiol

Darparwr a chost:

  • Interaction

Hyd yr amser:

  • Cyfres o fodiwlau i’w defnyddio mewn hyfforddiant mewnol

Oes cyfieithiadau ar gael?

Mae deunyddiau ar gael hefyd mewn:

  • Arabeg
  • Portiwgeeg
  • Sbaeneg
  • Wcraneg
  • Swahili.
Deunyddiau'r cwrs ar gyfer atal cam-fanteisio a cham-drin rhywiol

Cyflwyniad i Ddiogelu yn y Sector Gwirfoddol yng Nghymru.

Darparwr a chost:

  • Cefnogi Trydydd Sector Cymru
  • Mae angen i chi gofrestru eich manylion i fewngofnodi
  • Hyfforddiant am ddim.

Hyd yr amser:

  • 75 munud.

Oes cyfieithiadau ar gael?

  • Cymraeg
  • Saesneg.
Cyflwyniad i Ddiogelu yn y Sector Gwirfoddol yng Nghymru.