Mae Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru yn cefnogi’r gymuned Partneriaethau Iechyd yng Nghymru, drwy eu partneriaeth â Hub Cymru Africa, a thrwy ymuno â Phartneriaethau Iechyd Byd-eang (THET gynt).
Isod, ceir rhywfaint o sefydliadau ac adnoddau i gefnogi gwaith Partneriaethau Iechyd Byd-eang yng Nghymru.
Mae Partneriaethau Iechyd Byd-eang yn cefnogi Partneriaethau Iechyd rhwng sefydliadau iechyd y DU a sefydliadau iechyd dramor fel ysbytai, prifysgolion a chanolfannau ymchwil, i wella mynediad at ofal iechyd yn fyd-eang.
Maen nhw’n cynnig cyllid, adnoddau, a’r platfform Pulse am ddim i gysylltu gyda phobl eraill ac i rannu dysgu.
Mae’r Ganolfan Cydlynu Iechyd Rhyngwladol (IHCC) yn rhaglen unigryw sy’n cwmpasu Cymru gyfan, ac sy’n dod â’r Holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG at ei gilydd.
Mae’n hyrwyddo ac yn hwyluso partneriaethau iechyd rhyngwladol, ac yn gweithredu fel pwynt canolog ar gyfer rhannu gwybodaeth, cyfnewid gwybodaeth, cydweithio a rhwydweithio ar draws y DU, Ewrop a’r byd.
Mae Pecyn Cymorth Gweithredu y Siarter wedi cael ei ddatblygu o wersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd, gan gynnwys enghreifftiau o arfer gorau a darparu fframwaith llywodraethu i gefnogi gweithgareddau iechyd rhyngwladol. Mae’r pecyn wedi cael ei gynllunio fel ‘dogfen fyw,’ a bydd yn cael ei ddiweddaru’n gyson i helpu llofnodwyr i weithredu egwyddorion y siarter.
Mae’r Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi datblygu a hyrwyddo polisïau i wella iechyd a lles, a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru ac ar draws y byd.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ymroddedig i les pawb ac yn cael ei arwain gan wyddoniaeth. Mae’n arwain ac yn cefnogi ymdrechion byd-eang i roi cyfle cyfartal i bawb, ymhobman, i fyw bywyd iach.
Mae Africa CDC yn cryfhau capasiti a gallu sefydliadau iechyd cyhoeddus Affrica yn ogystal â phartneriaethau, i ddarganfod ac ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i fygythiadau ac achosion o afiechydon, ar sail ymyriadau a rhaglenni sy’n seiliedig ar ddata.