EN
< Adnoddau Gwrth-Hiliaeth, Cyfathrebu

Newid y Naratif

Mae’r ffordd rydyn ni’n siarad am brosiectau undod byd-eang (datblygu rhyngwladol gynt) a’n partneriaid yn cael effaith enfawr.

Yn draddodiadol, mae partneriaid yn cael eu portreadu fel eneidiau diymadferth sydd arnynt ddirfawr angen am achubwr (gwyn) o’r ‘Gorllewin / Gogledd Byd-eang” i’w hachub rhag tlodi a thanddatblygu.

Mae ymchwil yn awgrymu bod hyn nid yn unig yn foesol anghywir ac yn amharchus i’n partneriaid, ond ei fod hefyd yn gwaethygu agweddau’r cyhoedd tuag at ddatblygu rhyngwladol.

Mae sefydliadau yn ein sector wedi buddsoddi amser ac adnoddau i newid y naratif. Mae The Narrative Project, o Unol Daleithiau America, wedi creu’r cyflwyniad defnyddiol hwn ar newid y naratif ac ar newid cefnogaeth gyhoeddus.

The Narrative Project Geirfa Termau