Mae gan bob un ohonom yr hawl i gael ein trin gydag urddas a pharch. Weithiau, nid yw lluniau a straeon sydd yn cael eu defnyddio i hyrwyddo gwaith elusennau yn adrodd stori sydd yn cael ei chydnabod gan ein partneriaid fel eu profiad eu hunain.
Ymunwch â ni yn y digwyddiad ar-lein hwn sydd wedi cael ei recordio ymlaen llaw, wrth i ni barhau â’n taith gwrth-hiliaeth trwy gyfrwng y prosiect ‘Reframing the Narrative’,.
Mae’r digwyddiad ar agor i wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr neu staff sefydliadau yng Nghymru sydd yn gweithio mewn undod byd-eang gyda’u partneriaid rhyngwladol.
Trwy’r digwyddiad dysgu a rennir hwn; fe wnaethom edrych ar dair astudiaeth achos, i ystyried sut y gallwn weithio’n well i gefnogi partneriaid i adrodd eu straeon yn eu geiriau eu hunain. Roedd hon yn sesiwn agored, lle bydd mynychwyr yn cael cyfle i rannu eu barnau a dysgu gydag eraill.
Astudiaethau Achos:
Fe wnaethom ofyn i ni’n hunain:
“What changes do we want to see across the sector to how stories are told?”
And “What can we do differently in our own organisations?”