Mae’r Comisiwn Elusennau yn gyfrifol am oruchwylio cofrestru a llywodraethu elusennau yng Nghymru (a Lloegr). Mae’n cynhyrchu canllawiau i ymddiriedolwyr ar sut y dylent gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol, ac mae hefyd yn darparu cofrestrfa ar-lein ar gyfer pob elusen yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r ddwy flynedd gyntaf o redeg elusen yn cael eu hystyried yr anoddaf. Mae’n rhaid i chi ddiffinio a datblygu eich model, ac adeiladu a chynnal eich adnoddau, polisïau, partneriaid a gweithgareddau.
Ystyrir bod pum mlynedd o fodolaeth elusen yn garreg filltir gan lawer, ac yn gyfle i ailystyried sut y gallwch chi lwyddo, sut y gallwch gynyddu eich gwaith, ac asesu a ydych chi’n defnyddio’ch arian yn ddoeth.
Mae 6 cham i sefydlu elusen:
Gallwch ddefnyddio’r canllaw syml hwn o’r Glymblaid Elusennau Bach, sydd bellach yn cael ei gynnal gan FSI ac NCVO, i’ch tywys drwy’r camau o sefydlu elusen. Bydd y canllaw hwn yn eich llywio drwy’r logisteg o sefydlu elusen mewn camau syml:
Er mwyn sefydlu elusen newydd, rhaid i chi benderfynu pa fath o strwythur cyfreithiol fydd ganddi.
Mae strwythur eich elusen yn cael ei ddiffinio gan ei ‘dogfen lywodraethu’ (y ddogfen gyfreithiol sy’n creu’r elusen ac sy’n dweud sut y dylid ei rhedeg).
Mae’r math o strwythur rydych chi’n ei ddewis yn effeithio ar sut y bydd eich elusen yn gweithredu, fel:
Mae pedwar prif fath o strwythur elusen:
Mae angen i chi ddewis y strwythur cywir ar gyfer eich elusen, yn dibynnu ar b’un a oes ei angen arnoch i gael strwythur corfforaethol, a p’un a ydych eisiau cael aelodaeth ehangach.
Mae mwy o gefnogaeth a chyngor ar gael yma
NCVO help and guidance: choosing your legal structure
Gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim:
Trust Law: TrustLaw yw gwasanaeth cyfreithiol pro bono byd-eang Thomson Reuters.
Lawworks UK: Cyngor cyfreithiol i sefydliadau nid-er-elw
A4Aid Advocates for International Development: Cyngor cyfreithiol trwy bartneriaeth gyda chwmni cyfreithiol
Mae canllawiau ar wefannau’r Comisiwn Elusennau a NCVO Knowhow ynghylch sut y gall elusen fasnachu ei hun (fel modd o godi arian neu i hyrwyddo eu huchelgeisiau elusennol), neu pryd y dylid sefydlu is-gwmni masnachu:
Mae 19 o gyrff cymorth lleol a rhanbarthol ar draws Cymru – y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs).
Gallant ddarparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ynghylch llywodraethu elusennol. Gallwch ddod o hyd i’ch un lleol yma: