EN
< Adnoddau Llywodraethiant

Pethau i’w hystyried wrth sefydlu elusen neu CIC

View in other formats

DOCX PDF

Canllawiau'r Comisiwn Elusennau

Mae’r Comisiwn Elusennau yn gyfrifol am oruchwylio cofrestru a llywodraethu elusennau yng Nghymru (a Lloegr). Mae’n cynhyrchu canllawiau i ymddiriedolwyr ar sut y dylent gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol, ac mae hefyd yn darparu cofrestrfa ar-lein ar gyfer pob elusen yng Nghymru a Lloegr.

 

Ystyriaethau ymarferol

  1. A yw’n elusen sydd â’r strwythur gorau i ddarparu’r gwasanaeth a fwriadwyd? Beth am CIC (Cwmni Buddiannau Cymunedol), neu gydweithfa er enghraifft, a allai ddarparu mwy o hyblygrwydd o ran gweithredu neu berchnogaeth?
  1. Meddyliwch am ddarpar elusen fel busnes newydd – beth yw ei chynnyrch, ei man arbennig yn y farchnad, ei Phwynt Gwerthu Unigryw (USP)? Oes yna elusennau eraill yn gwneud yr un math o bethau yn yr un ardal? Pam fyddai elusen arall yn beth da i ddefnyddwyr gwasanaeth?
  2. Pa adnoddau sydd eu hangen arnoch yn realistig i wneud i’r ‘busnes’ weithio? Pobl, lle, deunyddiau, arian, ac ati.
  3. Oes unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r darpar elusen yn gwybod unrhyw beth am rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr? Oes ganddynt unrhyw brofiad o reoli elusen neu fusnes? Ydyn nhw’n sylweddoli ei fod yn gyfrifoldeb cyfreithiol parhaus,  ac nid dim ond mater o ddod i gyfarfodydd ddwywaith neu dair gwaith y flwyddyn ydyw? Ydyn nhw’n deall eu dyletswydd o atebolrwydd cyhoeddus drwy’r Comisiwn Elusennau? I gael gwybodaeth ac arweiniad, ewch i:
  1. Mae bod yn angerddol dros achos yn wych, ond mae angen i chi fod yn angerddol am redeg elusen sydd yn cael ei llywodraethu’n dda hefyd.
  2. Pa mor hyfyw a chynaliadwy fyddai’r busnes? O le fyddai’r arian yn dod yn realistig? Oes cyllideb realistig a chynllun busnes? 

Mae’r ddwy flynedd gyntaf o redeg elusen yn cael eu hystyried yr anoddaf. Mae’n rhaid i chi ddiffinio a datblygu eich model, ac adeiladu a chynnal eich adnoddau, polisïau, partneriaid a gweithgareddau. 

Ystyrir bod pum mlynedd o fodolaeth elusen yn garreg filltir gan lawer,  ac yn gyfle i ailystyried sut y gallwch chi lwyddo, sut y gallwch gynyddu eich gwaith, ac asesu a ydych chi’n defnyddio’ch arian yn ddoeth.

Sefydlu elusen

Mae 6 cham i sefydlu elusen:

  1. Dod o hyd i ymddiriedolwyr ar gyfer eich elusen – fel arfer mae angen o leiaf 3.
  2. Gwneud yn siŵr fod gan yr elusen ‘ddibenion elusennol er budd y cyhoedd‘.
  3. Dewis enw ar gyfer eich elusen.
  4. Dewis strwythur ar gyfer eich elusen.
  5. Creu ‘dogfen lywodraethol‘.

Cofrestru fel elusen os yw eich incwm blynyddol dros £5,000 neu os ydych yn sefydlu sefydliad corfforedig elusennol (CIO).

Canllaw sefydlu elusen ar gyfer sefydliadau bach

Gallwch ddefnyddio’r canllaw syml hwn o’r Glymblaid Elusennau Bach, sydd bellach yn cael ei gynnal gan FSI ac NCVO, i’ch tywys drwy’r camau o sefydlu elusen. Bydd y canllaw hwn yn eich llywio drwy’r logisteg o sefydlu elusen mewn camau syml:

Mathau o strwythur elusen

Er mwyn sefydlu elusen newydd, rhaid i chi benderfynu pa fath o strwythur cyfreithiol fydd ganddi.

Mae  strwythur eich elusen yn cael ei ddiffinio gan ei ‘dogfen lywodraethu’ (y ddogfen gyfreithiol sy’n creu’r elusen ac sy’n dweud sut y dylid ei rhedeg).

Mae’r math o strwythur rydych chi’n ei ddewis yn effeithio ar sut y bydd eich elusen yn gweithredu, fel:

  • pwy fydd yn rhedeg yr elusen ac a fydd ganddi aelodaeth ehangach
  • p’un a all ymrwymo i gontractau neu gyflogi staff yn ei henw ei hun
  • p’un a fydd yr ymddiriedolwyr yn atebol yn bersonol am beth mae’r elusen yn ei wneud.

Mae pedwar prif fath o strwythur elusen:

  1. Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO)
  2. Cwmni elusennol (cyfyngedig drwy warant)
  3. Cymdeithas Anghorfforedig
  4. ymddiriedolaeth

Mae angen i chi ddewis y strwythur cywir ar gyfer eich elusen, yn dibynnu ar b’un a oes ei angen arnoch i gael strwythur corfforaethol, a p’un a ydych eisiau cael aelodaeth ehangach.

Sut i benderfynu beth sy'n iawn i chi?

Mae mwy o gefnogaeth a chyngor ar gael yma

NCVO help and guidance: choosing your legal structure

Gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim:

Trust Law: TrustLaw yw gwasanaeth cyfreithiol pro bono byd-eang Thomson Reuters.

Lawworks UK: Cyngor cyfreithiol i sefydliadau nid-er-elw 

A4Aid Advocates for International Development: Cyngor cyfreithiol trwy bartneriaeth gyda chwmni cyfreithiol

Sut y gall elusennau fasnachu?

Mae canllawiau ar wefannau’r Comisiwn Elusennau a NCVO Knowhow ynghylch sut y gall elusen fasnachu ei hun (fel modd o godi arian neu i hyrwyddo eu huchelgeisiau elusennol), neu pryd y dylid sefydlu is-gwmni masnachu: 

Ydych chi eisiau siarad gyda rhywun am sefydlu elusen?

Mae 19 o gyrff cymorth lleol a rhanbarthol ar draws Cymru – y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs). 

Gallant ddarparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ynghylch llywodraethu elusennol. Gallwch ddod o hyd i’ch un lleol yma:

Rhwydwaith o gefnogaeth | Knowledge Hub Cymru