Mae WeTransfer yn wasanaeth trosglwyddo ffeiliau cyfrifiadurol ar y rhyngrwyd. Mae cyfrif am ddim yn caniatáu ichi anfon ffeiliau hyd at 2GB. Mae cyfrif pro fforddiadwy yn caniatáu ichi anfon hyd at 20GB.
Mae MailBigfile yn ffordd gyflym i anfon hyd at 5 ffeil o 2GB fesul ffeil i 1 person ar y tro am ddim. Rydych yn llusgo’r ffeil(au) i mewn i’r blwch ar y wefan, ac yn nodi’r derbynnydd a’ch neges iddynt. Maen nhw’n derbyn y neges a dolen i’w lawrlwytho i dderbyn y ffeil.
Mae Hightail hefyd yn caniatáu i bobl anfon ffeil trwy gyfrwng dolen e-bost. Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y cyfrif, sydd am ddim. Gallwch anfon ffeiliau o hyd at 250Mb i nifer o dderbynwyr. Mae Hightail yn integreiddio â Microsoft Outlook, ac mae ganddo hefyd ddatrysiad storio a rhannu ffolderi tebyg i Dropbox.