Gall strategaeth codi arian eich helpu i flaenoriaethu a chanolbwyntio’ch ymdrechion codi arian, a’ch helpu i fod yn fwy cynaliadwy. Fodd bynnag, gall ymddangos fel proses frawychus mewn sefydliad bach. Edrychodd y cwrs hwn (dros ddau weithdy hanner diwrnod) ar sut i ddatblygu strategaeth codi arian. Rhoddodd fap ffordd strwythuredig ac offer perthnasol i’r rheiny a gymerodd ran, i’w galluogi i gynhyrchu a gweithredu strategaeth codi arian sefydliadol. Erbyn diwedd yr ail ran hon o’r gweithdy, yr amcanion oedd i gyfranogwyr allu gwneud y canlynol:
Mae’r fideo hwn sydd wedi’i recordio yn addas ar gyfer unrhyw un sydd eisiau datblygu neu adnewyddu eu strategaeth codi arian.
Lawrlwythwch y ddogfen hon i’ch helpu i weithio drwy’r ymarferion yn y Gweithdy:
Datblygu eich Strategaeth Codi Arian: Yr FSIYn yr hyn sydd bellach yn farchnad orlawn a chystadleuol, gall codi arian deimlo fel sefyllfa ‘catch 22’ ar gyfer sefydliadau bach a diaspora: heb arian, does dim llawer o gapasiti ond yn aml, nid oes gennym yr amser, yr adnoddau na’r sgiliau i godi arian yn effeithiol. Fel rhan o Raglen Dysgu Cyfoedion Common Ground Initiative, cynhyrchodd INTRAC y pecyn cymorth hwn yn nodi pwysigrwydd cynllunio strategol ar gyfer codi arian.
Codi arian ar gyfer llwyddiant: Canllaw i Gyrff Anllywodraethol Bach a Diaspora | INTRACBeth allai strategaeth codi arian ei olygu i chi? Lawrlwythwch ein taflen awgrymiadau yma i’ch helpu i ddechrau cynllunio sut i godi arian.
Taflen Awgrymiadau ar Strategaethau Codi Arian | Hub Cymru AfricaGallwch gysylltu â Hub Cymru Africa ar unrhyw adeg i gael cyngor a chefnogaeth un-i-un gyda’ch strategaeth codi arian.