EN
< Adnoddau Cyfathrebu

Y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer sefydliadau datblygu rhyngwladol

Efallai nad ydych yn credu y gallai eich sefydliad gael sylw yn y wasg – fodd bynnag, mae newyddiadurwyr yn aml yn chwilio am straeon sy’n cynnwys sefydliadau nid-er-elw sy’n gwneud gwahaniaeth ar draws  y byd, ac efallai y bydd eich sefydliad yn gallu cynnig stori na allai neb arall ei rhoi.

Mae meithrin perthynas â’r wasg, ysgrifennu datganiadau i’r wasg a chyflwyno sylwadau i newyddiadurwyr i gyd yn ffyrdd y gallwch chi adeiladu proffil eich sefydliad a chael eich cydnabod am eich gwaith.

Ysgrifennu datganiad i’r wasg

Os oes gennych rywfaint o newyddion gan eich sefydliad y credwch y dylid ei gynnwys yn y wasg, yna ysgrifennu datganiad i’r wasg ydy’r ffordd orau o gael sylw, a sicrhau bod yr wybodaeth gywir yn cael ei rhoi i newyddiadurwyr yn gyflym.

Mae datganiadau i’r wasg yn straeon newyddion byr, ffeithiol, wedi’u hysgrifennu yn y trydydd person, ac yn cael eu rhoi i newyddiadurwyr i’w galluogi i’w troi’n stori newyddion neu’n erthygl yn hawdd ac yn gyflym, heb ormod o ysgrifennu ychwanegol.

Gall y datganiad fod ynghylch unrhyw beth, ond i fod yn effeithiol, dylai fod yn werth ei gofnodi. Er enghraifft:

Lansio rhaglen newydd
Diweddariad sylweddol i’ch rhaglen neu wasanaethau presennol
Agor swyddfa newydd neu ail-frandio
Cyflwyno partner neu roddwr newydd
Digwyddiad codi arian mawr, neu garreg filltir codi arian
Derbyn gwobr
Cyd-fynd â digwyddiad cenedlaethol, fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Mae’r rhan fwyaf o newyddiadurwyr yn cael eu bombardio gyda dwsinau o ddatganiadau i’r wasg bob dydd. Oherwydd hyn, dylech ofalu bod eich datganiad yn y fformat cywir, a’i fod yn glir ac yn hawdd ei ddeall.

Ysgrifennu pennawd gwych

Bydd newyddiadurwr yn sganio hwn yn gyntaf ac yn gwneud penderfyniad sydyn ynghylch a yw’n werth parhau I’w ddarllen. Dylai eich pennawd fachu sylw a cheisio cynnwys prif naws eich stori mewn un frawddeg. Dylai grynhoi’r stori a chadw diddordeb pobl. Meddyliwch i chi’ch hun – beth am y pennawd yma fydd yn gwneud i bobl fod eisiau darllen mwy? Cadwch o dan 140 cymeriad os allwch chi.

Er enghraifft, yn lle:

“Sefydliad nid-er-elw Cymreig yn dathlu ei ddeng mlwyddiant”

defnyddiwch…

“Sefydliad nid-er-elw Cymreig yn dathlu pen-blwydd carreg filltir drwy helpu deg ysgol yn Affrica i gael mynediad at ddŵr glân” 

Meddwl am eich pennawd bachu sylw

Er mwyn i’ch stori gael sylw yn y wasg, mae’n rhaid iddi fod o ddiddordeb i’r cyhoedd. Wrth ysgrifennu eich datganiad, gofynnwch i chi’ch hun bob amser, ‘pam fod hyn yn ddiddorol i rywun tu allan i fy sefydliad?’. Os nad ydyw, ystyriwch ei newid ychydig.

Crynhoi’r stori yn y paragraff cyntaf

Ceisiwch gyrraedd y pwynt yn gyflym, a defnyddiwch bob paragraff dilynol i ychwanegu manylion. Defnyddiwch baragraffau ychwanegol tuag at ddiwedd y datganiad i siarad am bwy ydych chi fel sefydliad, ac am eich gwaith.

Cynnwys dyfyniad

Bydd hyn yn helpu i ddod â’r stori’n fyw, a’i gwneud hi’n haws i’r newyddiadurwr ysgrifennu, oherwydd efallai na fydd angen iddynt gysylltu â chi wedyn i gael dyfyniad. Er enghraifft, os ydych chi’n cynnal digwyddiad, gofynnwch i’ch bwrdd neu eich pennaeth am ddyfyniad i’w gynnwys am beth mae’r digwyddiad yn gobeithio ei gyflawni.

Cadw’r darn yn gryno ac i’r pwynt.

Gwnewch yn siŵr bod eich datganiad i’r wasg yn aros ar y trywydd iawn ac nad oes gormod o wybodaeth ddiangen ynddo. Mae ei gadw i un ochr o bapur A4 yn ffordd dda o aros ar y trywydd iawn.

Ychwanegu gwerth

Oes gennych fynediad i astudiaeth achos a allai helpu eich stori i ddod yn fyw? Neu luniau y gellid eu defnyddio gyda’r stori? Ydy eich sylfaenydd ar gael ar gyfer cyfweliad? Crëwch adran ‘Nodiadau i Olygyddion’ ar ddiwedd y datganiad i’r wasg, a rhoi manylion am unrhyw beth ychwanegol y gallwch ei gynnig a fyddai’n perswadio newyddiadurwr i roi sylw i’r stori.

Cynnwys y 5 ‘W a’r 1 ‘H’

Dylai eich datganiad i’r wasg fod yn stori gyflawn – cofiwch gynnwys y 5 ‘W’ a’r 1 ‘H’:

“Who?” Am bwy mae’r datganiad i’r wasg?
“What?” Beth yw’r stori?
“Why?” Pam bod datganiad i’r wasg am y mater hwn?
“When?” Lle mae’r stori’n cael ei lleoli?
“Where?” Pryd mae’r stori’n digwydd?
“How?” Sut mae’r stori hon yn ychwanegu gwerth i’r darllenydd?


Addasu’r datganiad yn dibynnu ar ble rydych chi’n ei anfon.

Cymerwch yr amser i olygu’ch datganiad ychydig, yn seiliedig ar ble rydych chi’n bwriadu ei anfon. Os ydych chi’n targedu’r wasg leol, soniwch fwy am yr ongl leol, a pham ei fod o ddiddordeb i bobl leol. Os ydych chi’n ei anfon at bapur cenedlaethol, adolygwch yr iaith a ddefnyddir, i sicrhau bod yr ongl yn berthnasol i bawb yn genedlaethol.

Paratoi datganiad i’r wasg.

Mae cymryd yr amser i adeiladu perthynas â newyddiadurwyr allweddol yn rhywbeth a fydd yn gwneud eich datganiad i’r wasg yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio. Gall estyn allan a gofyn ar beth maen nhw’n  gweithio arno, ac a oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i helpu (er enghraifft, darparu astudiaethau achos), helpu i sicrhau bod eich sefydliad ar eu radar.

Edrychwch ar y prif gysylltiadau mewn gwahanol bapurau newydd a gwefannau newyddion, gan gynnwys desg newyddion, digwyddiadau a gohebwyr lleol. Os nad ydynt wedi’u rhestru ar-lein, ffoniwch y ddesg newyddion gyffredinol neu’r switsfwrdd, a gofynnwch pwy ydy’’r cysylltiadau mwyaf perthnasol ar gyfer gwahanol adrannau.

Anfonwch e-bost wedi’i bersonoli gyda’r datganiad at bob cyswllt, a gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio pwrpas y datganiad yn gryno, a pham ei fod o ddiddordeb i’w darllenwyr. Gwnewch yn siŵr fod eich e-bost yn fyr, yn gyfeillgar ac i’r pwynt. Dylech gynnwys manylion cyswllt rhag ofn bod ganddynt unrhyw gwestiynau.

Ar gyfer datganiadau pwysig, dylech ystyried dilyn eich e-bost i fyny gyda galwad ffôn ddiwrnod yn ddiweddarach, i weld a oes unrhyw ddiddordeb ac os ydynt eisiau mwy o wybodaeth.

Os hoffech drafod unrhyw anghenion cyfathrebu penodol neu drefnu rhywfaint o gymorth cyfathrebu wedi’i deilwra, e-bostiwch: communications@hubcymruafrica.wales.