Mae Mobilize yn cynnig ffordd hawdd o reoli eich perthnasoedd a chael pobl i weithredu. Ni ddylai gymryd lle eich cylchlythyr e-bost, ond gallai fod yn ffordd well o weithio gyda’ch cefnogwyr mwyaf ymroddedig. Ar Mae fersiwn am ddim ar gael, yn ogystal â rhaglen grantiau gyfyngedig.
Arolwg digidol ydy SmartSurvey, sy’n helpu unrhyw un i greu arolygon, adeiladu holiaduron a dadansoddi’r canlyniadau.
Gellir defnyddio Google Forms i ddylunio ffurflenni ar-lein sy’n arbed data i ap taenlenni Google.
Mae Survey Monkey yn adnodd arolwg ar-lein poblogaidd a soffistigedig iawn ac mae llawer o sefydliadau’n ei ddefnyddio. Fodd bynnag, os ydych chi dim ond yn defnyddio’r cynllun am ddim, mae’n cyfyngu arnoch yn sylweddol.
MailChimp yw un o’r cymwysiadau a ddefnyddir amlaf i anfon negeseuon e-bost neu e-gylchlythyrau mewn swmp. Mae’n dechrau am ddim, ond gall fynd yn ddrud wrth i chi gael mwy o gysylltiadau, er eu bod yn gwneud gostyngiadau i elusennau.
Mae Sendgrid yn adnodd arall ar gyfer anfon e-byst mewn swmp, ac mae ganddo gyfrifon am ddim ar gyfer anfon nifer fach o e-byst, er y gallwch anfon mwy os ydych yn talu.
Mae SendX yn blatfform hawdd ei ddefnyddio, fforddiadwy, ac yn blatfform llawn nodweddion ar gyfer anfon meintiau mawr o e-byst. Mae’n olygydd llusgo a gollwng, sy’n gwneud creu e-byst yn hawdd ac yn gyflym iawn.