EN
< Cyfleoedd Gwirfoddoli Masnach DegBywoliaethau Cynaliadwy

Cyfleoedd eraill

Sefydliad: Partner Organisations

Weithiau, mae ein sefydliadau partner yn gofyn i ni am wirfoddolwyr am rolau eraill, i’w cefnogi yn eu meysydd thematig o ddiddordeb, gan gynnwys iechyd, newid hinsawdd, addysg, Masnach Deg a bywoliaethau cynaliadwy.

Mae grwpiau Masnach Deg ar draws Cymru yn awyddus i groesawu gwirfoddolwyr newydd i’w helpu i ymgyrchu yn eu hardal a chefnogi digwyddiadau a stondinau.

Mae gan lawer o grwpiau cyswllt Cymru Affrica anghenion penodol ynghylch codi arian, cynllunio strategol, llywodraethu a rheolaeth ariannol, ac rydym yn croesawu gwirfoddolwyr sydd â phrofiad presennol yn y meysydd gwaith hyn. Mae croeso hefyd i wirfoddolwyr sy’n awyddus i gyfrannu eu harbenigedd mewn meysydd eraill.

Os hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost i enquiries@hubcymruafrica.wales heddiw, a rhoi ‘Gwirfoddoli’ yn y llinell bwnc.