EN

Argyfwng mewn Cymorth Iechyd Byd-eang, gyda Dr Peter Baker

Darlith Flynyddol Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru

IechydDarlith Digwyddiad ar-lein Zoom Register
DFID / Rich Taylor

Darlith Flynyddol Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru, a drefnir gan Hub Cymru Africa, yw prif ddarlith flynyddol Cymru ar iechyd byd-eang.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal pob blwyddyn, ac yn adlewyrchu materion allweddol sy’n dylanwadu ar iechyd byd-eang. Mae darlith eleni yn digwydd ar adeg allweddol, wrth i doriadau cymorth sylweddol barhau i effeithio ar systemau iechyd, partneriaethau, a chynnydd tuag at ymrwymiadau byd-eang.

Rydym yn falch o groesawu Dr. Peter Baker, Dirprwy Gyfarwyddwr Rhaglen Polisi Iechyd Byd-eang a Chymrawd Polisi yn y Ganolfan ar gyfer Datblygiad Byd-eang, fel ein prif siaradwr.

Bydd thema eleni, “Argyfwng mewn Cymorth Iechyd Byd-eang”, yn archwilio’r heriau cynyddol sy’n wynebu cyllido iechyd byd-eang a’r goblygiadau i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

2025 oedd y flwyddyn pan wnaeth popeth cwympo yn y sector cymorth iechyd byd-eang. Fe wnaeth yr UD, a oedd unwaith yn fuddsoddwr mwyaf y byd, gau USAID yn sydyn, ac yn dilyn hynny, fe wnaeth y DU a’r rhan fwyaf o wledydd G7 eraill ddechrau gwneud yr un peth. Cau clinigau, stopio dosbarthu meddyginiaethau, a cholli bywydau. Roedd hyn yn sioc, ond yr hyn y dangosodd y sioc mewn gwirionedd oedd diffygion mawr yn y ffordd y mae cymorth iechyd byd-eang yn cael ei drefnu, a pha mor wael mae cyllid llywodraeth a chyllid gan roddwyr yn gweithio i bobl. Yn y ddarlith hon, bydd Pete Baker, dirprwy gyfarwyddwr rhaglen polisi iechyd byd-eang yn y Center for Global Development, yn trafod yr argyfwng presennol yn y sector cymorth iechyd byd-eang, a beth allai ddigwydd yn 2026.

Bydd y digwyddiad yn dod â gweithwyr proffesiynol iechyd, ymchwilwyr, myfyrwyr, ac unigolion sydd wedi ymrwymo i undod byd-eang, datblygiad rhyngwladol a thegwch iechyd at ei gilydd.

Mae gan Dr. Baker arbenigedd helaeth mewn cyllid iechyd, ac mae ei ddiddordeb pennaf yn y dystiolaeth, y dulliau, a’r strategaethau polisi sydd eu hangen i gryfhau systemau iechyd byd-eang mewn cyfnod o adnoddau cyfyngedig.

Bydd y ddarlith yn cael ei chadeirio gan Dr Tony Jewell, cyn Brif Swyddog Meddygol Cymru a chyn Gadeirydd Rhwydwaith Cyswllt Iechyd Cymru ac Affrica.

Ynghylch Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru

Mae Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru (GHPC), sef Rhwydwaith Cyswllt Iechyd Cymru ac Affrica gynt, yn cefnogi prosiectau iechyd a lles rhwng Cymru a gwledydd incwm isel ac incwm canolig, yn enwedig yn Affrica Is-sahara.

Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru ydy ymateb y sector iechyd yng Nghymru i alwad i weithredu y Cenhedloedd Unedig ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Rydym yn cysylltu ac yn cryfhau cydweithredu rhwng gweithwyr proffesiynol iechyd, byrddau iechyd, ac elusennau yng Nghymru ac mewn gwledydd partner i greu newid parhaol a phositif ym maes iechyd byd-eang.

Gweithgareddau Allweddol

  • Cefnogi a mentora partneriaethau iechyd rhwng Cymru a Gwledydd Incwm Isel a Chanolig
  • Lansio’r adroddiad Voices of Experts in Our Midst yn y Senedd ym mis Ionawr 2024
  • Darparu mynediad i adnoddau, cyfleoedd rhwydweithio, a hyfforddiant
  • Gweithio gyda Philippine Nurses Association i lansio PNA Cymru
  • Trefnu gweminarau, gweithdai ar-lein ac wyneb yn wyneb, a digwyddiadau, yn enwedig gyda phrifysgolion, fel Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd dros Iechyd Byd-eang
  • Cydweithio gyda sectorau eraill i gysylltu iechyd gydag addysg, hinsawdd, a rhywedd.
Mae Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hub Cymru Africa.
Cymryd rhan