EN

Codi arian ar gyfer Iechyd mewn amseroedd heriol

IechydDigwyddiad Dysgu ar y Cyd Digwyddiad ar-lein Zoom Cofrestru
An icon of the earth with a hearbeat line across the it, surrounded by small icons of the £ sign, hearts and pluses.

Mae Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru, sydd yn cael ei gynnal gan Hub Cymru Africa, yn eich gwahodd i ddigwyddiad dysgu ar y cyd ar-lein, sy’n canolbwyntio ar godi arian a chyllido cynaliadwy yn y sector iechyd.

Mae’r digwyddiad hwn yn digwydd ar adeg hanfodol, pan fo cyllid byd-eang yn dirywio, cyllidebau cymorth yn cael eu torri, a phan mae llawer o sefydliadau elusennol ac iechyd yn cael trafferth darparu gwasanaethau hanfodol. Mae’r heriau hyn yn rhoi bywydau mewn perygl, yn enwedig mewn cymunedau sydd heb lawer o adnoddau.

Bydd y sesiwn yn darparu sgiliau dysgu ymarferol ar sut i ymgysylltu â rhoddwyr, dangos effaith, ac adeiladu perthnasoedd cryf gyda noddwyr. Bydd yn archwilio gwahanol fodelau ariannu, profiadau o ysgrifennu ceisiadau am grantiau, a ffyrdd o fobileiddio adnoddau, gan gynnwys gweithio gyda gwleidyddion a dyngarwyr.

Mae’r digwyddiad ar agor i weithwyr proffesiynol iechyd, ymchwilwyr, myfyrwyr, ac unrhyw un sydd wedi ymrwymo i sicrhau cyfiawnder a chydweithredu ym maes iechyd byd-eang.

Siaradwyr

Tebello Lepheane

Nyrs Mosotho yw Tebello a, sylfaenydd Starlight Oasis of Hope Hospice yn Lesotho. Mae Tebello yn arwain ymdrechion i ehangu gofal lliniarol yn Lesotho.

Angela Gorman

Sylfaenydd Life for African Mothers, sydd â phrofiad helaeth mewn cyllido iechyd mewn lleoliadau heb lawer o arian.

Cadeirydd: Israa Mohammed

Mae Israa yn Gadeirydd Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru ac yn Wyddonydd Epidemiolegol Uwch yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.