EN

Cyflwyniad i Setiau Dysgu Gweithredol

Myfyriwch a symudwch ymlaen trwy’r heriau gyda'ch cyfoedion

Gweminar Digwyddiad ar-lein Zoom Cofrestru
Action Learning Set symbol

Mae Setiau Dysgu Gweithredol (SDGau) yn ffordd syml a phwerus i ymarferwyr ym maes undod byd-eang i weithio gyda’i gilydd ar yr heriau sy’n eu hwynebu yn eu gwaith.

Yn 2023, treialodd Hub Cymru Africa gynllun peilot SDG gyda chyfranogwyr o chwe sefydliad o’r Gymuned Cymru ac Affrica.

Ailadroddwyd yr ALS yn 2024-25 gyda chwe sefydliad pellach, gan gynnwys partneriaid o wledydd Affrica.

Fe wnaeth gwerthusiadau o’r peilot hwn ddarganfod fod y broses SDGau yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan gyfranogwyr, o ran cynnig amgylchedd cyfrinachol, diogel i rannu heriau cyffredin, ennill safbwyntiau eraill gan gyfoedion profiadol, a magu hyder yn eu dull eu hunain.

Rydym nawr yn lansio Set Dysgu Gweithredol newydd, dechrau Mis Chwefror 2026, ac yn eich gwahodd i ymuno â’ch cyfoedion a chael profiad o adnodd y gallwch ei ddefnyddio trwy gydol eich bywyd proffesiynol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n Set Dysgu Gweithredol Cymru ac Affrica, cofrestrwch eich diddordeb yma:

Ffurflen cofrestru diddordeb SDG

Nodwch: mae’r cyfranogiad wedi’i gyfyngu i gyrff sydd mewn partneriaethau Cymru ac Affrica.

Rydym yn cynnal sesiwn wybodaeth awr o hyd ar ddydd Iay 29ain o Ionawr 25 Hydref rhwng 12:00 – 13:00 GMT i gyflwyno’r fframwaith SDG ac i ateb eich cwestiynau.

Bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio, a bydd y ddolen yn cael ei rhannu os na allwch fynychu’r sesiwn hon.