Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein cynhadledd iechyd allweddol ar gyfer y sector undod byd-eang yn dychwelyd eleni ar ddydd Llun, yr 8fed o Fedi yng Nghaerdydd.
Bydd y digwyddiad wyneb yn wyneb hwn yn dod â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, myfyrwyr iechyd y cyhoedd a phobl sydd â diddordeb mewn iechyd byd-eang at ei gilydd o dan y thema:
“Trawsnewid Polisi: Eiriolaeth dros Gydraddoldeb Iechyd Byd-eang”
Ar adeg pan mae undod byd-eang, datblygu rhyngwladol a chymorth tramor dan fygythiad, mae eirioli dros gydraddoldeb iechyd ar draws y byd yn bwysicach nag erioed.
| 09:30 | Drysau’n agor i gyfranogwyr- diodydd poeth a rhwydweithio |
| 10:10 | Croeso - Israa Mohammed, Cadeirydd Newydd Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru |
| 10:20 | Croeso dros fideo - Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Sefydliad Iechyd y Byd |
| 10:25 | Prif araith - Dr. Sumina Azam, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd |
| 10:45 | Sesiynau Trafod: |
| 1. Eiriolaeth yng Nghymru: Dysgu am beth mae Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru eisiau weld gan y Llywodraeth Cymru nesaf a siarad am sut i ddylanwadu ar bolisi cyn etholiadau Senedd y flwyddyn nesaf. Gyda Tom Baker, Cadeirydd Hub Cymru Africa; Julian Rosser, Pennaeth Hub Cymru Africa; Israa Mohammed, Cadeirydd Newydd GHPC a Angela Gorman, Prif Weithredwr Life for African Mothers. | |
| 2. Gweithwyr Iechyd Diaspora yng Nghymru - O WRES i Weithredu: Gyda Star Moyo, Grŵp Mwyafrif y Byd, Swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru; Hannah Lewis Samu, Rheolwr Rhaglen Ymgysylltu â'r Diaspora ar gyfer Partneriaethau Iechyd Byd-eang; Regina Reyes, Cymdeithas Nyrsys Philipinaidd Cymru. | |
| 3. Dinasyddiaeth Fyd-eang a Thegwch Iechyd gyda’r Athro Liz Green a Laura Holt, IHCC, Iechyd Cyhoeddus Cymru. | |
| 11:50 | Egwyl |
| 12:10 | Astudiaethau achos: Gaza |
| “Sefyllfa Iechyd Cyhoeddus yn Gaza” gyda Dr Ahmed Alshantti, Meddyg y GIG yng Nghymru o Gaza | |
| “Gaza - Nodau o'r rheng flaen.” gyda’rr Athro Tom Potokar, Ymddiriedolwr a Sefydlydd Interburns, sydd wedi bod yn gweithio yn Gaza. | |
| 13:00 | Cinio |
| 14:00 | Prif araith: Sarah Murphy AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Llywodraeth Cymru |
| 15:15 | Prif araith: Dad-drefedigaethu Iechyd Byd-eang: Pam y Dylai Partneriaeth Ddisodli Tadolaeth - Ben Simms, Prif Swyddog Gweithredol, Partneriaethau Byd-eang |
| 15:30 | Egwyl |
| 15:50 | Trafodaeth banel - Cadeiriwyd gan Mutale Merrill OBE |
| Dr. Julia Terry, Cadeirydd GHPC Cymru | |
| Israa Mohammed, Is-gadeirydd GHPC | |
| Dr. Sumina Azam, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd | |
| Ben Simms, Prif Swyddog Gweithredol, Partneriaethau Iechyd Byd-eang | |
| Dr Gill Richardson, Cyd-Gadeirydd CMRC; Associate Medical Director Health Inequalities, University Hospitals yn Birmingham ac Prif Weithredwr Dros Dro o Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. | |
| 16:20 | Sylwadau terfynol: Julian Rosser, Pennaeth, Hub Cymru Africa |