Cynhyrchion penodol i gyd-destun a modelau ariannu cynaliadwy
Mae iechyd mislif a chyfiawnder yn parhau i fod yn heriau byd-eang cymhleth sy’n cysylltu ymarferwyr a chymunedau ar draws Cymru ac Affrica.
O ganlyniad i’r diddordeb cryf yn ein sesiwn Cymuned Ymarfer Rhywedd blaenorol ar dlodi mislif, mae’r digwyddiad dilynol anffurfiol hwn yn cynnig cyfle i ddod at ein gilydd unwaith eto, rhannu profiadau a dyfnhau’r drafodaeth.
Yn hanner cyntaf y sesiwn, byddwn yn canolbwyntio ar ddylunio cynhyrchion mislif cynaliadwy a phriodol i’r cyd-destun:
Bydd yr ail hanner yn archwilio dulliau ariannu, heriau a chyfleoedd:
Ymunwch â ni i barhau â’r sgwrs, dysgu gyda’n gilydd, ac ystyried ffyrdd ymlaen.
Mae Mariama Djelo Bah yn Gynrychiolydd Gwlad URBOND yn Guinea, cymdeithas elusennol sydd wedi ennill sawl gwobr, sy’n hyrwyddo cydlyniant hiliol ac amrywiaeth, sy’n creu cyfleoedd i bobl ifanc, ac sy’n helpu plant i gael mynediad at addysg mewn ardaloedd na fyddent o bosibl wedi gallu cael hynny fel arall.
Yn Guinea, mae Mariama yn arwain mentrau i wella mynediad at addysg a hyrwyddo lles plant, yn enwedig merched. Ers 2019, mae URBOND wedi adeiladu ysgolion, darparu adnoddau dysgu a mynd i’r afael â gwahaniaethau ar sail rhywedd mewn addysg. O dan ei fenter addysg plant, mae’r sefydliad wedi bod yn darparu pecynnau mislif i ferched ysgol y gellir eu hailddefnyddio a trwy bartneriaeth gyda Days for Girls UK, mae URBOND wedi dechrau cynhyrchu’r pecynnau hyn yn lleol, gan fynd i’r afael â thlodi mislif a hefyd, darparu cyfleoedd cyflogaeth i fenywod lleol.
Mae Mariama wedi arwain nifer o weithdai ar fislif, addysg rhyw ac FGM (anffurfio organau cenhedlu benywod) hefyd, ac yn grymuso merched gyda gwybodaeth hanfodol a sgiliau bywyd
Mae Cymuned Ymarfer Hub Cymru Africa yn lle diogel, dewr a chynhwysol i ddysgu a rhannu ymysg y rhai sy’n ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd, cyfiawnder rhywedd, a grymuso merched drwy brosiectau undod byd-eang.
Rydym yn cyfarfod 3 i 4 gwaith y flwyddyn, ac yn canolbwyntio ar thema wahanol bob tro.
Rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer pynciau, siaradwyr, ac adborth. Mae hwn yn ofod i chi hefyd. Anfonwch e-bost atom – advice@hubcymruafrica.wales.