Mae hwn yn gyfle datblygu, i dreulio 8 wythnos yn Lesotho, yn cefnogi ysgol gynradd i addysgu plant sydd ag amhariad ar y golwg ac awtistiaeth, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r lleoliad mewn ysgol gynradd yn Lesotho.
Mae’r ysgol yn ceisio darparu addysgu o ansawdd uchel, cymorth arbenigol a thriniaethau wedi’u teilwra i ddisgyblion sydd ag amhariad ar y golwg ac anhwylderau yn y sbectrwm awtistig, a sicrhau bod ganddynt fynediad llawn at y cwricwlwm a’u bod yn cyflawni eu potensial mewn amgylchedd ysgol gynhwysol.
Bydd rôl y lleoliad yn cynnwys y canlynol:
Trwy’r lleoliad hwn, mae’r ysgol yn gobeithio dysgu’r canlynol:
Bydd gennych y Cymhwyster Gorfodol ar gyfer Athrawon Plant a Phobl Ifanc sydd ag Amhariad ar y Golwg ac yn ogystal â hynny, bydd gennych hyfforddiant neu gymhwyster ychwanegol mewn addysg anhwylder yn y sbectrwm awtistig. Yn ogystal, byddwch yn meddu ar y canlynol:
I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.
Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle datblygu i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.
Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.
Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir isod yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.