Mae hwn yn gyfle datblygu, i dreulio 8 wythnos yn Lesotho, yn cefnogi Corff Anllywodraethol gyda’ch arbenigedd codi arian a chynllunio strategol, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r lleoliad mewn sefydliad dielw sy’n creu cyfleoedd cynaliadwy ym meysydd addysg, pensaernïaeth a grymuso economaidd. Mae eu model menter gymdeithasol yn cyfuno cenhadaeth ddynolgar gydag arferion busnes cynaliadwy, ac yn creu mentrau sy’n ariannu eu hunain, sy’n cynhyrchu effaith gymdeithasol a gwerth economaidd o fewn cymunedau ar draws Lesotho.
Mae gan yr elusen systemau codi arian strwythuredig yn eu lle. Fodd bynnag, maen nhw’n wynebu heriau o ran ystod a nifer y rhoddwyr. Bydd y lleoliad yn cefnogi’r elusen i gryfhau strategaethau mobileiddio adnoddau tymor hir, gwella prosesau ymgysylltu â rhoddwyr, a gwella sgiliau ysgrifennu grantiau i sicrhau cysoni’n well â gofynion rhoddwyr i ennill mwy o grantiau a chynyddu nifer y rhoddwyr sy’n rhoi arian fwy nag unwaith.
Bydd gennych brofiad a sgiliau cryf mewn codi arian ac ymgysylltu â rhoddwyr (rhoddion sefydliadol, corfforaethol ac unigol) ac arbenigedd mewn cynllunio strategol a datblygu sefydliadol. Yn benodol bydd gennych:
Mae profiad blaenorol yn gweithio gyda Chyrff Anllywodraethol rhyngwladol, partneriaid neu sefydliadau datblygu yn fantais ychwanegol. Byddai gwybodaeth am roddwyr a phartneriaid posibl i dargedu yn cael ei groesawu’n fawr.
I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.
Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle datblygu i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.
Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.
Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir isod yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.